Ewch i’r prif gynnwys

Groeg Canolradd Cam C

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs yn mireinio eich sgiliau iaith lafar, glywedol ac ysgrifenedig ymhellach. Er bod y prif bwyslais ar siarad, byddwch yn cael digon o gyfle i ymarfer strwythurau gramadegol a phatrwm brawddegau, sydd yn hanfodol er mwyn dechrau a chynnal sgwrs yn Groeg.

Byddwch yn cael digon o gyfle i siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp, gwrando ar dapiau sain/fideo dilys, darllen testunau byr a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg.

Dyma’r pynciau:

  • archebu prydau bwyd
  • siarad am wyliau a gweithgareddau amser rhydd
  • siarad am ddigwyddiadau yn y gorffennol
  • hoff bethau a chas bethau
  • mynegi safbwyntiau
  • teulu
  • gwneud cais ysgrifenedig i gwmni yn y sector cyhoeddus
  • gwaith tŷ.

Llyfr testun: Communicate in Greek 2, Argraffiad Newydd, Deltos

Gramadeg: emphasis on various tenses;  introduction of active and passive voice.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth o'r Groeg (astudio rhan-amser am ddwy flynedd neu gyfwerth) sy’n dymuno gwella eu sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn glywedol ac yn ysgrifenedig.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.