Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg Ganolradd Uwch – Cam D

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddefnyddio ystod ehangach o sgiliau llafar, clywedol ac ysgrifenedig, yn ddigonol ar gyfer siarad yn hyderus mewn Almaeneg ar bynciau dewisol.

Byddwch hefyd yn ymarfer sgiliau gwrando fydd yn eich galluogi i ddeall Almaeneg ar gyflymder darllen newyddion.

Byddwch yn dysgu sut i ddeall y rhan fwyaf o'r erthyglau yng ngwasg yr Almaen a rhoi sylw ar eu cynnwys ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn datblygu ymhellach eich dealltwriaeth o ddiwylliant gwledydd lle siaredir Almaeneg.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar siarad ac yn y dosbarth fe gewch chi ddigon o gyfle i ymarfer eich sgiliau sgwrsio drwy waith pâr ac ymarferion grŵp.

Byddwch hefyd yn gwrando ar dapiau sain/fideo dilys, darllen testunau papurau newydd a chwblhau ymarferion, a fydd yn gwella eich geirfa a'ch gwybodaeth o ramadeg.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • amser a gweithgareddau
  • y byd gwaith
  • llyfrau a'r cyfryngau
  • hysbysebu
  • dysgu iaith
  • traffig a symudedd
  • bwyta ac yfed.

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, sy'n cynnwys:

  • is-gymalau/cysyllteiriau
  • y modd dibynnol
  • adolygu terfyniadau ansoddeiriau (Nom, Dativ, Acc., Gen)
  • gogwyddiad n
  • goddefol
  • enwau a berfau
  • arddodiaid.

Cwrs i chi yw hwn os oeddech yn arfer gallu siarad Almaeneg yn dda (astudiaeth ran-amser am dair blynedd neu Safon Uwch 'rydlyd'), a’ch bod eisiau gloywi a gwella eich dealltwriaeth a’ch mynegiant.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella.

Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ogystal â sesiynau wythnosol, rydym yn argymell eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi, yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth a darllen papurau newydd, gwrando ar y radio er mwyn mireinio eich sgiliau Almaeneg, mor agos â phosibl at lefel mamiaith.

Deunydd darllen awgrymedig

Spektrum B1, Chapters 1-6

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.