Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg Uwch D Canolradd Cam D

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch mynegiant yn y Ffrangeg ymhellach, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Y lefel hon yw’r cam cyntaf tuag at lefel defnyddiwr annibynnol. Er mwyn cyrraedd cam y defnyddiwr annibynnol lle, er enghraifft, y gallwch ddilyn y prif bwyntiau o drafodaeth eithaf hir ar destun cyfarwydd, rhoi neu ofyn am gyngor a safbwyntiau yn ystod trafodaeth anffurfiol rhwng ffrindiau, mae angen i chi yn y lle cyntaf gydgrynhoi eich sgiliau presennol a chael cywirdeb yn eich mynegiant a’ch dealltwriaeth.

Yn y cwrs Ffrangeg Canolradd Uwch, byddwch yn gwella eich sgiliau presennol, datblygu eich geirfa a chryfhau eich dealltwriaeth o brif strwythurau gramadegol y Ffrangeg.

Trefnir y cwrs o gwmpas y pynciau hyn:

  • teithio a dull o deithio
  • systemau ysgolion a phrifysgolion yn Ffrainc a’r DU
  • rhoi a deall gwybodaeth ynghylch materion sy’n ymwneud ag iechyd
  • gofyn am/ateb materion syml sy’n ymwneud â’r defnyddiwr gyda chyfrifiaduron, ffonau symudol a rhwydweithiau cymdeithasol.

Byddwch hefyd yn dysgu sut i wneud y canlynol:

  • adrodd am ddigwyddiadau yn y gorffennol
  • rhyngweithio mewn cyd-destun cymdeithasol (yn ffurfiol ac yn anffurfiol)
  • mynegi cytundeb ac anghytundeb
  • cymharu, gan nodi dymuniadau a diddordebau
  • disgrifio cynlluniau.

Yn ogystal â chaffael cymhwysedd yn y Ffrangeg ei hun, byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol megis sgiliau cyfathrebu a hunanreoli.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rheiny sydd wedi astudio Ffrangeg am dair blynedd yn rhan amser neu sydd â Safon Uwch ‘rydlyd’ mewn Ffrangeg.

O ran Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, mae’r cwrs hwn, ynghyd â Siarad Ffrangeg - Canolradd Uwch, yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer A2 a rhai cymwysterau B1.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’n hanfodol eich bod yn mynychu’n rheolaidd oherwydd er mwyn datblygu eich gallu ieithyddol, bydd angen i chi gymryd rhan yn y gweithgareddau strwythuredig y bydd eich tiwtor yn eu trefnu bob wythnos.

Rhwng sesiynau, bydd disgwyl i chi hefyd baratoi ar gyfer pynciau a chwblhau tasgau i atgyfnerthu'r hyn y byddwch chi wedi'i ddysgu yn y dosbarth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y cewch brofion dosbarth.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Nid oes llyfr cwrs fel y cyfryw ar gyfer y cwrs hwn a bydd eich tiwtor yn rhoi'r holl ddeunydd diweddaraf angenrheidiol i chi sy'n gysylltiedig â'r themâu a astudir.

Fodd bynnag, awgrymwn eich bod yn prynu'r llyfr gramadeg canlynol y byddwch yn gallu ei ddefnyddio eleni a'r flwyddyn ganlynol:

  • Grammaire Progressive du Francais: nouvelle edition, 2003 ; M. Gregoire, O. Thievenaz ; CLE International ; ISBN 2090338482.
  • Difficultes Expliquees Du Francais...for English Speakers, 2004 ; CLE International ; IBSN: 209033701X.

Nid ydym yn awgrymu deunydd darllen penodol i chi eu darllen ar wahân i'r cwrs ond hoffem i chi geisio darllen papurau newydd a chylchgronau yn rheolaidd. Yn y llyfrgell, rydym yn derbyn y cyfnodolion canlynol a fyddai’n addas ar eich cyfer chi:

  • Ca m'interesse
  • Le Francais dans le Monde
  • Marianne, Authentik
  • Champs Elysees.

Wrth gwrs, gallwch gael gafael ar gyfnodolion Ffrangeg trwy eu gwefannau.

Byddai'r llyfrau canlynol yn ddefnyddiol i baratoi ar gyfer DELF A2:

  • Competences - Expression Orale, 2006; M. Barfety, P. Beaujouin ; CLE International.
  • Competences - Comprehension Ecrite, 2005 ; S. Poisson-Quinton, R. Mimran ; CLE International.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.