Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg i Ddechreuwyr

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y cwrs hwn yw dysgu’r hanfodion i chi o ran strwythurau gramadegol sylfaenol Almaeneg, a hynny er mwyn i chi allu cyfathrebu ar lefel sylfaenol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a sefyllfaoedd sy’n hanfodol ar gyfer goroesi mewn gwledydd lle siaredir Almaeneg.

Mae pynciau'n cynnwys:

  • cyflwyno eich hun
  • siarad am eich hun a’ch teulu
  • trefnau dyddiol
  • yn y cartref
  • dweud beth ydych yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi
  • bwyd a diod
  • rhoi gwybodaeth a’i deall
  • gofyn am gyfarwyddiadau
  • gwneud ymholiadau teithio.

Byddwn hefyd yn trafod y cysyniadau gramadegol canlynol:

  • rhagenwau (gan gynnwys rhai meddiannol)
  • amser presennol a ffurfiau’r ferf
  • gwrthrychol
  • derbyniol
  • cyflwyniad i diweddiadau ansoddeiriau
  • gorchmynnol
  • cyflwyniad i’r amser presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n ddechreuwyr llwyr o ran Almaeneg, ac sy'n dymuno gallu cynnal sgwrs sylfaenol wrth deithio i'r Almaen, Awstria a'r Swistir. O ran y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (Goethe-Zertifikat), mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer A1.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gryfhau’ch hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Spektrum A1, Chapters 1-6

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.