Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg ar gyfer Ôl-ddechreuwyr – Cam A + (Dwywaith yr Wythnos)

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddefnyddio amrywiaeth ehangach ond cyfyngedig o sgiliau iaith llafar, clywedol ac ysgrifenedig.

Er bod y pwyslais ar siarad, byddwch hefyd yn dysgu rhagor o strwythurau gramadegol a phatrymau brawddegau sy'n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd pellach mewn Ffrangeg.

Yn y dosbarth, byddwch yn cael digon o gyfle i siarad trwy waith pâr ac ymarferion grŵp; gwrando ar dapiau sain/fideo dilys; darllen testunau byr; a chwblhau ymarferion a fydd yn gwella eich geirfa a’ch gwybodaeth am ramadeg. Byddwch yn cwblhau ymarferion ysgrifenedig gartref.

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar y sgiliau siarad rydych yn eu hennill, bydd y cwrs hwn yn cael ei olynu gan fodiwl byrrach sy’n canolbwyntio'n llwyr ar siarad a gwrando.

O ran y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (DELF a DALF), mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer A1.

Byddwch yn dysgu:

  • sut i gyfarch pobl
  • sut i gyflwyno eich hun a gofyn/ateb cwestiynau syml
  • archebu byrbrydau a diodydd
  • siarad am weithgareddau pob dydd
  • gofyn/dweud faint o’r gloch yw hi
  • gofyn am/rhoi cyfarwyddiadau a mynegi beth sydd orau gennych.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg am flwyddyn yn rhan-amser neu â enillodd TGAU gryn amser yn ôl, ac sydd am wella eu sgiliau iaith cyfredol.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs. Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.