Ewch i’r prif gynnwys

Ffuglen Fflach

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Pryd y bydd stori fer mor fyr fel ei bod yn dod yn fath gwahanol o stori? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y stori fer a microffuglen? A beth yw’r berthynas rhwng bod yn gryno a naratif?

Mae’r cwrs ysgrifennu creadigol ymarferol hwn yn ystyried y genre ffuglen fflach sydd ar gynnydd, gan archwilio sbectrwm naratifau cryno, gan gynnwys microffuglen, ffuglen â chant o eiriau (drabble), nano-ffuglen, twitfic a’r stori hynod fer, a’u safle mewn perthynas â’r gymdeithas fodern a thechnoleg. Bydd yn cynnig trosolwg o gyfleoedd cyhoeddi ac awgrymiadau ymarferol o ran cyflwyno ceisiadau i gylchgronau a chystadlaethau.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir cyfarfodydd dwy awr unwaith yr wythnos (20 awr o gyswllt i gyd) a fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion, darlithoedd ynghylch crefft a gweithdai.

Caiff dysgwyr eu hannog i ddarllen y testunau a gyflwynir a chael adborth gan y tiwtor ac aelodau eraill y grŵp.

Mae Amgylchedd Dysgu Rhithwir y brifysgol, Dysgu Canolog, yn darparu ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer deunyddiau cwrs, sleidiau darlithoedd, a darllen ychwanegol.

Mae’n debygol y bydd sesiynau yn cynnwys:

  • Sgiliau ysgrifennu creadigol: terminoleg sylfaenol a’r cysyniadau sy’n berthnasol i Ffuglen Fflach.
  • Ymchwilio i dueddiadau cyfoes, arddulliau a datblygiadau ym maes ffuglen fflach, gan gynnwys microffuglen, ffuglen â chant o eiriau (drabble), nano-ffuglen, twitfic a’r stori hynod fer
  • Trafod enghreifftiau cyhoeddedig o ffuglen fflach
  • Adolygu, adborth, a myfyrio
  • Cyhoeddi ffuglen fflach: galwadau agored, cystadlaethau a llwybrau eraill

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu trwy bortffolio o ddarnau ffuglen fflach (80%) a sylwebaeth feirniadol (20%).

Bydd y sylwebaeth feirniadol, ar ffurf dyddiadur myfyriol, yn galluogi myfyrwyr i archwilio eu hymarfer creadigol eu hunain ac edrych ar ddeunydd darllen ehangach yn y ddisgyblaeth.

Bydd myfyrwyr yn ysgrifennu cyfanswm o 1800 o eiriau ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

Testunau sylfaenol a Gwefannau

  • Bath Flash Fiction Award, To Carry Her Home: Bath Flash Fiction Anthology Volume One (Ad Hoc Fiction)
  • Tiff Holland et al, My Very End of the Universe: Five Novellas-in-Flash and a Study of the Form (Rose Metal Press, 2014)
  • Tara L Masih, ed. The Rose Metal Press Field Guide to Writing Flash Fiction: Tips from Editors, Teachers, and Writers in the Field (Rose Metal Press, 2009)
  • James Thomas, Robert Shapard and Christopher Merrill (eds.), Flash Fiction International: Very Short Stories from Around the World (New York: W.W. Norton, 2015)
  • http://nationalflashfictionday.co.uk

Darllen a argymhellir

  • Isaac Asimov (ed.) 100 Great Science Fiction Short Short Stories (London: Robson, 1978)
  • Carly Berg (ed.) Coffee House Lies: 100 Cups of Flash fiction (South Coast Books, 2016)
  • David Eggers, Short Short Stories (Penguin, 2005)
  • David Gaffney, Sawn-Off Tales (Salt, 2006)
  • Yasunari Kawabata, Palm-Of-The-Hand Stories (Macmillan, 2006)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.