Ewch i’r prif gynnwys

Groeg: Uwch - Cam E

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cael gwersi Groeg ffurfiol am 3 i 4 mlynedd (lefel ganolradd ddatblygedig/datblygedig ac uwch) neu sydd â chefndir dwyieithog cryf neu sydd wedi gweithio tuag at lefel TGAU Groeg yn y gorffennol.

Y llyfr y byddwn yn ei ddefnyddio yw: K.& F. Arvanitakis, Communicate in Greek 3 (Epikoinoneste Ellenika 3), cyhoeddi Deltos.

Prif nod y cwrs yw rhuglder llafar a chlywedol. Bydd y cwrs yn ymdrin â phynciau gramadegol manylach ac yn ymestyn sgiliau ysgrifennu a gwrando'r myfyrwyr. Byddwn yn archwilio themâu yn ymwneud â hanes, llenyddiaeth a diwylliant Gwlad Groeg, a byddwn yn defnyddio ffilmiau, cyfresi teledu, podlediadau a rhaglenni radio i wella ein rhuglder a'n gwybodaeth am yr iaith.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a’r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.