Ewch i’r prif gynnwys

Seicoleg Annormal

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Yn y modiwl dwbl hwn, bydd gennych y cyfle i archwilio modelau o anomaleddau a’r goblygiadau ar gyfer eu trin.

Trwy ddefnyddio amrediad o safbwyntiau o fewn seicoleg, cewch eich annog i gymharu a chyferbynnu a herio'r theorïau er mwyn deall cymysgedd o esboniadau o ymddygiadau addas ac eclectig sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae hyn hefyd yn fodiwl opsiynol ar y Llwybr at radd mewn Gofal Iechyd.

Dysgu ac addysgu

Bydd yn cynnwys y canlynol:

  • Diffinio normalrwydd
  • Datblygiad normal a theori'r meddwl
  • Ymagweddau seicolegol tuag at annormaledd
  • Datblygiad annormal
  • Damcaniaeth priodoli
  • Stereoteipio a rhagfarnau
  • Y ddamcaniaeth y tu ôl i fodelau therapiwtig
  • Asesu llwyddiant therapi
  • Sgitsoffrenia, Straen, Gorbryder, Iselder, OCD, Ffobia Cymdeithasol, Hunan-niweidio, Anhwylderau Bwyta

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yw: Dau draethawd; neu un traethawd ac adroddiad wedi'i gyflwyno i ddosbarth. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gryfhau’ch hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • DAVISON, G. C. & NEALE, J.M. (6th Edition) (1994) Abnormal Psychology. Wiley.
  • DAWKINS, R. (1989) The Selfish Gene Oxford University Press
  • GROSS, R. (1996) Psychology, The Science of Mind and Behaviour. Hodder & Stoughton
  • GROSS, R. & McIlveen, R. (2000) Abnormal Psychology. Hodder & Stoughton
  • ROSENHAM, D. L. & SELIGMAN, M. E. P. (1995) Abnormal Psychology. W. W. Norton

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.