Ymrestru drwy ebost
Er mwyn sicrhau diogelwch ein myfyrwyr a'n staff, rydym wedi cau ein hadeilad a rhaid i bob archeb gael ei wneud ar-lein.
Bydd angen i chi ddychwelyd eich ffurflen ymrestru a’ch taliad i gadw lle ar eich cwrs o ddewis. Lle bo’n bosibl, dylid cwblhau ffurflenni ymrestru cyn dechrau eich dosbarth cyntaf.
Cwblhau eich ffurflen
Unwaith y byddwch wedi dewis y cwrs yr ydych chi am ei astudio, dylech:
- lawrlwytho'r ffurflen ymrestru
- cwblhau pob adran yn llawn, gan ddefnyddio priflythrennau bloc
- arwyddo'r datgaiad ar ddiwedd y ffurflen er mwyn i'ch cais gael ei brosesu. Bydd ffurflenni ymrestru heb lofnod yn cael eu dychwelyd.

Enrolment Form 2022-23 (Welsh)
Canllawiau Ymrestru a Ffurflen Ymrestru 2020/21
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Y ffordd orau i lenwi’r ffurflen hon yw defnyddio Adobe Acrobat Reader. Lawrlwytho Adobe Acrobat Reader.
Dychwelyd eich ffurflen
Rhaid dychwelyd ffurflenni ymrestru drwy ebost: Learn@caerdydd.ac.uk.
Ni fyddwn yn derbyn ffurflenni ymrestru drwy'r post.
Talu
Gallwch drefnu taliad dros y ffôn.
Ers 1 Awst 2019, nid ydym yn derbyn taliadau ar ffurf arian parod, siec neu drwy'r post.
Cysylltu â ni
Addysg Barhaus a Phroffesiynol
Gallwch chwilio dros 300 o gyrsiau rhan-amser ac astudio gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol.