Ewch i’r prif gynnwys

Ffliw adar pathogenig iawn wedi’i ganfod mewn mamaliaid

Yn ddiweddar, rydym wedi gweld achosion o ffliw adar (feirws A, H5N1) ymhlith mamaliaid, gan gynnwys dyfrgwn, llwynogod a morloi (yn y DU ac ar y cyfandir), sy’n peri pryder ynghylch poblogaethau o famaliaid ac iechyd dynol. Mae Defra wedi cyhoeddi  yn ddiweddar ar y risgiau i iechyd dynol, sy’n cynnwys rhywfaint o wybodaeth am achosion ymhlith mamaliaid.

Dod i gysylltiad â’r feirws

Mae’n debygol mai sborio (mamaliaid yn bwyta adar gwyllt sydd wedi marw o ffliw adar) sy’n gyfrifol am yr achosion a nodwyd ymhlith mamaliaid yn y DU hyd yma. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod y feirws yn goroesi'n dda mewn dŵr, hefyd – yn aml, mae’r feirws yn trosglwyddo rhwng adar wrth iddynt ddod i gysylltiad ag ysgarthion mewn dŵr, sy’n debygol o gynyddu’r risg i famaliaid dyfrol/lled-ddyfrol. Felly, mae’r canlynol yn peri risg:

  • Dod i gysylltiad ag ysgarthion anifeiliaid sydd wedi’u heintio mewn dŵr
  • Dod i gysylltiad â hylifau corfforol/ysgarthion anifeiliaid sydd wedi’u heintio
  • Bwyta carcasau sydd wedi’u heintio
  • Anadlu’r feirws (h.y. bod mewn cysylltiad agos ag anifail byw sydd wedi’i heintio)

Nifer yr achosion

Nid yw nifer yr achosion ymhlith mamaliaid yn hysbys ar hyn o bryd. Er ein bod wedi gweld naw achos hyd yma yn y DU (pedwar achos ymhlith dyfrgwn a phum achos ymhlith llwynogod; canfyddiadau wedi’u cadarnhau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion), cafodd y rhain i gyd eu cadarnhau yn dilyn profi anifeiliaid unigol a fu farw mewn ardaloedd lle mae’r feirws wedi brigo, lle byddant wedi bwydo ar adar gwyllt marw. Nid oes data wedi'i gyhoeddi sy'n disgrifio pa mor gyffredin yw’r feirws ymhlith mamaliaid o'r poblogaethau gwyllt ehangach sy’n cael eu samplu ar hap.

Yn rhan o Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, rydym wedi creu system sgrinio erbyn hyn ac yn anfon samplau swab o’r holl ddyfrgwn rydym yn eu cael o bob rhan o Gymru/Lloegr/yr Alban (yn bennaf o ganlyniad i gael eu lladd ar y ffordd) i’w profi, a fydd yn ein galluogi i werthuso pa mor gyffredin yw’r feirws yn y boblogaeth wyllt.

Hyd yma (ar 02/02/2023), rydym wedi cael canlyniadau 48 o ddyfrgwn (o bob rhan o Gymru/Lloegr) – mae pob un ohonynt wedi profi’n negatif (h.y. dim tystiolaeth o ffliw adar hyd yma).

Risg

Mae tystiolaeth o glefyd (meningo-enseffalitis yn arbennig) a marwolaeth ymhlith mamaliaid wedi’u heintio, gan gynnwys morloi, dyfrgwn a llwynogod (er enghraifft, ‘Encephalitis and Death in Wild Mammals at a Rehabilitation Center after Infection with Highly Pathogenic Avian Influenza A(H5N8) Virus, United Kingdom’). Ar gyfer H5N8, dangosodd yr astudiaeth honno fod genomau feirysol a ynyswyd o gelloedd mamalaidd heintiedig yn dangos newid mwtanol sy’n gysylltiedig â feirwledd uwch a dyblygiad mewn mamaliaid. Fodd bynnag, nid oes digon o ddata ar hyn o bryd ar famaliaid heintus (gan gynnwys bodau dynol) i werthuso’r risg i boblogaethau’n fanwl.

Effaith ar ein rhaglen archwiliadau post-mortem

Oherwydd y risg y gallai ein tîm ddod i gysylltiad â’r feirws wrth drin carcasau am amser hir yn rhan o archwiliadau post-mortem, rydym wedi cael ein cynghori i beidio â chynnal archwiliadau post-mortem ar ddyfrgwn nes bod canlyniad sgrinio negatif wedi dod i law. Felly, rydym yn cymryd swabiau (rhefrol, trwynol a thraceol) mewn cabinet rheoledig, yn ail-rhewi’r cyrff ac yn aros am y canlyniadau.

Ar hyn o bryd, nid oes gennym gyfleusterau sy’n addas ar gyfer trin dyfrgwn positif. Bydd yn rhaid i unrhyw ddyfrgwn positif gael eu llosgi heb gynnal archwiliad post-mortem (rydym yn ystyried opsiynau eraill i hyn). Byddwn yn bwrw ati i gynnal archwiliadau post-mortem ar ddyfrgwn sy’n profi’n negatif yn unig.

Rhagofalon i leihau’r risg i bobl

Ni ddylid trin anifeiliaid marw’n ddiangen neu heb gymryd y gofal priodol. Dylai unrhyw un o’n rhwydwaith casglu sy’n codi carcasau dyfrgwn gymryd gofal, yn unol â’r cyngor ar drin adar a allai fod yn heintus.

Dyma’r pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonynt:

  • Gallai’r feirws drosglwyddo o famaliaid/adar i fodau dynol, os byddwch yn dod i gysylltiad ag anifeiliaid sydd wedi’u heintio.
  • Mae brechiad rhag y ffliw yn debygol o’ch diogelu rywfaint (ond nid yn llawn), a byddai’n ddoeth i unrhyw un sy’n debygol o drin mamaliaid a allai fod yn heintus gael brechiad o’r fath.
  • Dylid gwisgo cyfarpar diogelu personol, gan gynnwys menig a masgiau wrth drin mamaliaid a allai fod yn heintus.
  • Dylid cymryd gofal o ran hylendid, gan gynnwys golchi/diheintio unrhyw arwynebau a allai fod wedi’u halogi.
  • Gall meddyg teulu ragnodi meddyginiaeth wrthfeirysol mewn achosion pan fydd risg o fod wedi dal y feirws – dylai unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad ag anifail heintus gysylltu â’i feddyg teulu ar frys.
  • Gellir cynnal profion sy'n benodol i ffliw adar – dylai unrhyw un sy'n datblygu symptomau tebyg i rai ffliw ar ôl dod i gysylltiad ag anifail a allai fod wedi’i heintio (er enghraifft, ar ôl trin carcas dyfrgwn) roi gwybod i’w feddyg teulu.