Astudiaeth o Drawsnewid Gwasanaethau Gofal Llygaid yng Nghymru
Rydyn ni eisiau recriwtio cyfranogwyr ymchwil sydd wedi defnyddio, neu sydd wedi rhoi, gwasanaeth offthalmig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i drosglwyddo gwasanaethau gofal iechyd i'r gymuned.
Mae'r galw mawr am ofal llygaid yn rhoi llawer o bwysau ar wasanaethau gofal llygaid mewn ysbytai. Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau manwl i symud gwasanaethau ac adnoddau gofal iechyd i'r gymuned fel rhan o'u cynllun 'Cymru Iachach'.
Rydyn ni eisiau recriwtio cyfranogwyr ymchwil sydd wedi defnyddio neu sydd wedi rhoi gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ailstrwythuro hwn i gymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil hon.
Nodau
Amcan cyffredinol yr astudiaeth yw archwilio barn ymarferwyr, a deilliannau a phrofiadau y rhoddodd cleifion wybod amdanyn nhw o ran wasanaethau gofal llygaid a gynigir ym mhrosiect Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Llygaid yng Nghymru.
Y gwasanaethau dan sylw yw:
- glawcoma (cleifion sydd newydd gael eu cyfeirio)
- glawcoma (cleifion dilynol)
- dirywiad macwlaidd sy’n ymwneud ag oedran
- gofal llygaid diabetig
- gofal offthalmig heb ei drefnu.
Byddwn yn gwahodd rhai cleifion a staff gofal iechyd i gymryd rhan mewn cyfweliadau dros y ffôn i drafod eu profiadau.
Cymryd rhan
I gael eich cynnwys yn yr astudiaeth hon mae'n rhaid eich bod:
- wedi defnyddio neu wedi rhoi gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ailstrwythuro gofal llygaid
- yn gallu cynnal y cyfweliadau ymchwil gydag ymchwilydd yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Cyn ichi benderfynu a ydych eisiau cymryd rhan, mae’n bwysig eich bod yn deall diben yr astudiaeth hon a beth fyddai cymryd rhan yn ei olygu ichi. Darllenwch trwy'r daflen wybodaeth i gyfranogwyr sy'n berthnasol ichi ac os hoffech chi gymryd rhan yn yr astudiaeth, llenwch y ffurflen gydsynio berthnasol.
Taflenni gwybodaeth a ffurflenni cydsynio
Cleifion
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd yr astudiaeth yn ei olygu i'r grŵp hwn, darllenwch y daflen wybodaeth i gyfranogwyr.
Os hoffech chi gymryd rhan, llenwch y ffurflen gydsynio i gyfranogwyr.
Staff gofal iechyd
Os ydych chi'n aelod o staff gofal iechyd sy'n darparu gwasanaethau gofal llygaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o brosiect peilot Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Llygaid Cymru ac yr hoffech chi gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen gydsyniad staff gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys staff gweinyddol yn ogystal â staff meddygol.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr hyn y bydd yr astudiaeth yn ei olygu i'r grŵp hwn, darllenwch y daflen wybodaeth Darparwr Gofal Iechyd.
Cyswllt
Dr Angharad Hobby
- hobbyae2@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0588
Find out about other research participation opportunities to help us further our knowledge and improve patients lives.