Ewch i’r prif gynnwys

OPT028 - Sgiliau Astudio ac Ymchwil ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Llygaid 2

Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar OPT008 ac yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau ymchwil i wella'ch gallu i gynnal ymchwil gadarn a dod i gasgliadau dadansoddol cryf.

Mae'r modiwl yn eich annog i drosi ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth i arfer optometrig. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno technegau ymchwil ac egwyddorion methodoleg ymchwil, gan gynnwys y gallu i adnabod a dilysu problemau a wynebir mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag optometreg.

Mae pwyslais penodol ar wella sgiliau ymchwil allweddol gan gynnwys meddwl beirniadol, cyflwyno, dadansoddi ystadegol ac ysgrifennu ar gyfer y gymuned academaidd. Yn ogystal, byddwch yn cael cyfle i wella eich gwybodaeth ymhellach yn ymwneud ag ystyriaethau moesegol ac ystadegol mewn ymchwil optometrig a gwerthuso llenyddiaeth wyddonol yn feirniadol.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn.

Dyddiad dechrauMawrth
Credydau10 credyd 
RhagofynionOPT008
Tiwtoriaid y modiwlGrant Robinson
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT028

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • penderfynu ar ddyluniad ymchwil priodol i fynd i'r afael â chwestiwn ymchwil yn effeithiol o fewn optometreg
  • nodi a myfyrio ar wahanol ddulliau ymchwil (ymchwil ansoddol a meintiol), sy'n cael eu defnyddio ac y gellir eu defnyddio ym maes gofal critigol
  • defnyddio'r wybodaeth hon i ddechrau gwerthuso'r llenyddiaeth, yn feirniadol a myfyrio ar ei goblygiadau ar gyfer ymarfer
  • Integreiddio egwyddorion ystadegol dadansoddi data; gallu darlunio’r dulliau priodol i’w defnyddio ar gyfer setiau data gwahanol
  • meddu ar wybodaeth am oblygiadau moesegol ymchwil a sut i gwblhau cais moeseg
  • lledaenu canlyniadau ymchwil neu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gydweithwyr.

Dull cyflwyno’r modiwl

Dysgir y modiwl hwn trwy diwtorialau a darlithoedd Xerte (Pwerbwynt â sain) a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gan ddarparu adnoddau a chyfeirnodau ategol. Mae gweminar ragarweiniol, a thair sesiwn weminar arall o ddysgu ar-lein dan arweiniad. Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn.

Argymhellir presenoldeb myfyrwyr i'r modiwl Journal Club yn gryf. Bydd y Journal Club yn cyfarfod yn fisol drwy weminar i drafod ystod o ddogfennau ymchwil gan gynnwys papurau a adolygir gan gymheiriaid, cyflwyniadau poster, adolygiadau systematig a cheisiadau moeseg/grant. Bydd y llenyddiaeth a drafodir yn cael ei chylchredeg cyn pob gweminar, mae'n ofynnol i bob myfyriwr gyfrannu at y drafodaeth.

Sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu

Sgiliau academaidd

  • Adnabod cryfderau a gwendidau a bylchau yn y wybodaeth gyfredol
  • Y gallu i chwilio llenyddiaeth ymchwil yn effeithiol a nodi tystiolaeth allweddol i gefnogi damcaniaeth.
  • Sut i werthuso a dehongli data ansoddol neu feintiol
  • Y gallu i ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol

Sgiliau pwnc-benodol

  • Dylunio prosiectau ymchwil clinigol
  • Deall sut mae ymchwil o'r fath yn trosi'n arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn optometreg
  • Gwybodaeth weithredol o ddulliau ystadegol mewn ymchwil
  • Y gallu i feirniadu llenyddiaeth ymchwil

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Chwilio am wybodaeth berthnasol
  • Gweithio’n annibynnol
  • Sgiliau TG
  • Sgiliau cryf o ran dadansoddi a datrys problemau

Cynnwys y maes llafur

  • Egwyddorion ymarfer clinigol da ac uniondeb ymchwil
  • Ystyriaethau moesegol a sut i ysgrifennu cais moeseg
  • Dylunio ymchwil
  • Ymchwil meintiol
  • Ymchwil ansoddol
  • Dadansoddiad ystadegol o ddata ymchwil
  • Chwilio am wybodaeth a chasglu cyfeirnodau
  • Ysgrifennu ar gyfer y gymuned academaidd
  • Cynadleddau, cyflwyno a rhwydweithio

Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu

Asesiad ffurfiannol

Mae angen cwblhau'r gwaith hwn ond nid yw'n cario marc. Gofynnir i fyfyrwyr lunio cynllun dadelfennu, dadansoddi ac ysgrifennu canlyniadau cwestiwn ymchwil penodol. Darperir set ddata a rhaid cynnal dadansoddiad gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol. Rhaid cyflwyno'r gwaith hwn yn ysgrifenedig.

Asesiad crynodol

  • Arholiad Ar-lein (40%):Mae prawf cwestiynau amlddewis a fydd yn asesu dealltwriaeth a chymhwysiad ar draws y maes llafur cyfan y mae myfyrwyr yn ei gymryd ar ddiwedd y gyfres o ddarlithoedd.
  • Gwaith cwrs ysgrifenedig (60%): Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag asesiad ysgrifenedig ar ffurf adolygiad llenyddiaeth bychain. Byddant yn cyflwyno pwnc adolygu ar gyfer arweiniad i ddechrau ac yna'n ysgrifennu adolygiad byr o'r llenyddiaeth tra hefyd yn dogfennu eu methodoleg chwilio.