Ewch i’r prif gynnwys

OPT014: Rheoli Anhwylderau’r Haen Dagrau

Nid yw’r modiwl hwn yn ymwneud â llygaid sych yn unig; ei nod yw cynnig cyfle i chi wella eich sgiliau wrth asesu a rheoli anhwylderau’r haen dagrau yn eich ymarfer, ar lefel uwch.

Yn ogystal â dysgu damcaniaethol, byddwch yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau asesu’r haen dagrau a’r arwynebedd ocwlar y gallwch eu mabwysiadu ar unwaith yn eich ymarfer clinigol. Byddwch hefyd yn archwilio amrywiaeth o gynhyrchion therapiwtig ar gyfer y dull mwyaf priodol ac effeithiol o reoli anhwylderau’r haen dagrau.

Dyddiad dechrauMawrth
Hyd25 o oriau cyswllt dros un tymor academaidd
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim
Tiwtoriaid y modiwlHeiko Pult (Arweinydd)
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Cod y modiwlOPT014

Gwybodaeth ychwanegol: Mae'r modiwl hwn yn ategu OPT004, OPT018 ac OPT019.

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Bydd dau ddiwrnod hyfforddi ymarferol sy’n gofyn am bresenoldeb yng Nghaerdydd. Bydd y rhain fel arfer yn cael eu cynnal ddiwedd mis Mai neu fis Mehefin.

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o anhwylderau’r haen dagrau a gallu eu cymhwyso i heriau yn eu hamgylchedd a'u hymarfer.
  • Cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn asesiadau ymarferol
  • Asesu arwyddion a symptomau anhwylderau’r haen dagrau i wneud diagnosis gwahaniaethol ac i raddio opsiynau i’w rheoli
  • Asesu arwyddion a symptomau anhwylderau’r haen dagrau i wneud diagnosis gwahaniaethol ac i raddio opsiynau i’w rheoli
  • Datrys problemau a datblygu atebion/cynlluniau rheoli ar gyfer achosion cymhleth yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol gadarn
  • Myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso

Dysgir y modiwl hwn trwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain)  a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gan ddarparu adnoddau a chyfeirnodau ategol. Ceir gweminar ragarweiniol, a byddwch hefyd yn mynychu tiwtorialau, gweithdai a thrafodaethau achos dros ddau ddiwrnod yn olynol.

Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog hefyd yn rhoi llwyfan i chi drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'ch cyd-fyfyrwyr.

Gwaith Cwrs ysgrifenedig (50%): Bydd gofyn i chi gyflwyno un darn o waith cwrs ysgrifenedig.

Asesiad Ymarferol (50%): Byddwch yn sefyll Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE).

  • Strwythur a chyfansoddiad yr haen dagrau
  • Cyffredinrwydd llygaid sych ac amodau cysylltiedig
  • Achoseg anhwylderau’r haen dagrau
  • Achosion a rheolaeth epiffora
  • Dulliau o asesu'r haen dagrau
  • Holiaduron symptomau cleifion
  • Camweithrediad y chwarren Meibomaidd ac anhwylderau cyffredin eraill yr amrannau
  • Llid yr amrannau a'r haen dagrau/ arwynebedd ocwlar
  • Lensys cyffwrdd anghyfforddus a sych
  • Hanes mewn perthynas ag anhwylderau’r haen dagrau
  • Diagnosis gwahaniaethol o anhwylderau’r haen dagrau
  • Rheoli claf mewn perthynas ag anhwylderau’r ffilm dagrau a ddiagnosiwyd

Sgiliau academaidd

  • Casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • Ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • Dehongli data

Sgiliau pwnc-benodol

  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth eich hun i lefel uwch
  • Gwella technegau archwilio clinigol
  • Datblygu sgiliau ymarferol i asesu a rheoli pobl ag anhwylderau’r haen dagrau
  • Cynlluniau rheoli priodol ar gyfer llygaid sych, llygaid dyfrllyd a chamweithrediad y chwarren meibomaidd

Sgiliau cyffredinol

  • Rheoli prosiectau ac amser
  • Gweithio’n annibynnol
  • Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • Datrys problemau