Ewch i’r prif gynnwys

OPT013: Agweddau Cyfreithiol ar Optometreg yn y Deyrnas Unedig

Nod y cwrs hwn yw rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi o’r ymrwymiadau cyfreithiol mewn ymarfer optometrig yn y DU.

Mae cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno mewn fformat deniadol sy'n gymesur ag arfer bob dydd – mae llawer ohono'n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig y gallech eu cydnabod a'u uniaethu gyda. Bydd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy'n ymwneud â chomisiynu neu ddarparu gwasanaethau gwell, neu i ymarferwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant gyrfa.

Modiwl dysgu o bell yn unig yw hwn ac nid oes unrhyw gydran ymarferol iddo.

Mae pwyntiau CET ar gael ar ôl cwblhau elfennau perthnasol o'r modiwl.

Dyddiad dechrauMedi
Hyd22 o oriau cyswllt dros un tymor academaidd
Credydau10 credyd - pwyntiau CET ar gael
RhagofynionDim un
Tiwtoriaid y modiwlKevin Wallace
Peter Hampson
Ffioedd dysgu (2024/25)£670 - Myfyrwyr cartref
£1250 - Myfyrwyr rhyngwladol
Côd y modiwlOPT013

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl, dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth ym maes optometreg ac iechyd gofal yn y DU
  • gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern o addysg ac asesu ym maes gofal iechyd a gallu eu cymhwyso i heriau yn eich amgylchedd a'ch ymarfer eich hun
  • archwilio, dadansoddi'n feirniadol, cyfosod a gwerthuso materion cyfreithiol a moesegol sy'n ymwneud â chontractau, rheoleiddio, penodiadau, gwasanaethau a gwerthiannau a moeseg a chyfrifoldebau sylfaenol mewn ymarfer optometrig a chymhwyso'r wybodaeth hon i senarios penodol, gan ddangos sut y byddech chi'n penderfynu ar ymddygiad priodol neu amhriodol
  • cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori barn a phenderfyniadau beirniadol mewn gwaith ysgrifenedig.

Dull cyflwyno’r modiwl

Addysgir y modiwl hwn drwy ddarlithoedd (Pwerbwynt â sain) a gyflwynir drwy Dysgu Canolog, sef system e-ddysgu'r Brifysgol, gan ddarparu adnoddau a chyfeirnodau ategol. Bydd gweminar rhagarweiniol, a sesiynau gweminar pellach o ddysgu ar-lein dan arweiniad. Modiwl dysgu o bell yn unig yw’r modiwl hwn.

Bydd byrddau trafod ar Dysgu Canolog yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr drafod unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a ddaw i fyny drwy gydol y tymor gyda thiwtoriaid y cwrs a'u cyd-fyfyrwyr.

Bydd myfyrwyr yn ystyried cyfyng-gyngor cyfreithiol neu foesegol nodweddiadol mewn ymarfer optometreg yn y DU a byddant yn trafod y rhain ar-lein ac mewn gweminar. Bydd hyn cyn yr aseiniad terfynol a bydd yn darparu sylfaen ar gyfer dadansoddi'r achos.

Cynnwys y maes llafur

  • system Gyfreithiol Lloegr
  • cofrestru gyda'r cyrff proffesiynol a'r angen am yswiriant indemniad proffesiynol
  • y GIG ac optometreg
  • deddfwriaeth yn y practis ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr
  • gyrfaoedd ym maes optometreg
  • diogelu Data a Chyfrinachedd
  • cadw cofnodion
  • gweithdrefnau cwyno cleifion
  • esgeulustod a chamantur
  • y Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC)
  • côd Ymddygiad
  • deddfwriaeth Ewropeaidd mewn perthynas ag optometreg
  • gwneud atgyfeiriadau
  • rhoi cyngor i gleifion
  • rheoliadau ynghylch archwiliad llygaid a newidiadau diweddar i'r ddeddfwriaeth
  • gosod, gofal, gwerthu a chyflenwi lensys cyffwrdd
  • materion cyfreithiol ynghylch darpariaeth sbectol

Y sgiliau a gaiff eu hymarfer a’u datblygu

Sgiliau academaidd

  • datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
  • casglu ynghyd a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
  • ysgrifennu'n gryno a chlir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
  • dehongli data

Sgiliau cyffredinol

  • rheoli prosiectau ac amser
  • gweithio’n annibynnol
  • defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
  • datrys problemau

Sut bydd y modiwl yn cael ei asesu

Asesiad ffurfiannol

  • profion MCQ ar-lein yw’r rhain ac a fydd yn eich galluogi i asesu eich dealltwriaeth a’i chymhwysiad ar ddiwedd pob darlith.
  • bydd gwaith cwrs ffurfiannol (heb ei farcio) a thrafodaeth barhaus ar faterion amrywiol drwy'r fforwm.

Asesiad crynodol

  • gwaith cwrs ysgrifenedig (100%): Rhoddir senarios ichi sy'n cynrychioli ymgyflwyniadau arferol cleifion wrth ymarfer yn y DU. Byddant yn ymchwilio i'r rhain ac yn cyflwyno traethawd tuag at ddiwedd y cwrs.

Postgraduate team

School of Optometry and Vision Sciences