Datblygu proffesiynol parhaus
Rydym yn darparu ystod eang o gyrsiau byrsion ar gyfer optometryddion a phobl proffesiynol yn y maes gofal llygaid yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae ein canolfan addysg ôl-radd penodedig sef Canolfan Addysg Optometrig Ôl-Raddedig Cymru (WOPEC) wedi ymroi i ragoriaeth yn addysg gofal llygaid trwy arbenigedd ac annibynniaeth. Y Ganolfan yw'r gyntaf o'i math yn y byd. Nodwch bod y fideo isod trwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Croeso gan Dr Nik Sheen -Cyfarwyddwr WOPEC
Ewch i wefan WOPEC am fanylion y cyrsiau byrion amrywiol rydym yn eu trefnu.
Mae'r Ganolfan hefyd yn darparu gwaith wedi ei gomisiynu -am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sasha Macken neu Nik Sheen.
Rydym ni’n cynnig cyrsiau ôl-raddedig yn ogystal â chyrsiau byr drwy Ganolfan Addysg Optometrig Ôl-raddedig Cymru (WOPEC).