Ewch i’r prif gynnwys

Dr John Etherington

Bu farw Dr John Etherington, Cyn-ddarllenydd mewn Ecoleg Planhigion yn Adran Gwyddoniaeth Planhigion, Coleg Prifysgol Caerdydd, ar 19 Hydref 2018, yn 81 mlwydd oed.

Ymunodd John â’r Adran Fotaneg yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (a ailenwyd yn ddiweddarach yn Goleg Prifysgol Caerdydd) ym 1962, ar ôl cwblhau BSc a PhD yng Ngholeg Imperial, Llundain.

Roedd ei waith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar ecoleg ffisiolegol, yn enwedig astudiaethau cymharol rhwng rhywogaethau sy’n cyferbynnu’n ecolegol (ac yn hwyrach hefyd ar boblogaethau naturiol cyferbyniol o fewn rhywogaethau). Ei nod oedd deall y mecanweithiau ffisiolegol sy’n galluogi rhai rhywogaethau i oddef pwysau amgylcheddol penodol. Roedd ei waith cynnar yn canolbwyntio ar y mecanweithiau oedd yn galluogi rhai rhywogaethau planhigion i oddef dyfrlenwi pridd, ac fe barhaodd i weithio ar y pwnc hwn trwy gydol ei yrfa ymchwil. Aeth yn ei flaen i weithio mewn meysydd eraill o ecoleg planhigion, gan gynnwys pwysau eraill mewn priddoedd ac yn yr awyr. Bu’n ymchwilio i weundiroedd calchfaen a chemeg eu pridd yn ogystal â’r addasiadau ffisiolegol sy’n galluogi rhai rhywogaethau calchgas i oroesi yn y priddoedd hyn. Cyhoeddodd waith hefyd ar ddefnydd a rheoli tir. Roedd ei labordy bob amser yn weddol lawn a chroesawodd cyfres o fyfyrwyr ymchwil/cynorthwywyr ymchwil trwy gydol ei amser yn y brifysgol.  Roedd ei waith ymchwil yn cael ei barchu’n fawr ymysg ei gyfoedion a chafodd hyn ei gydnabod gan wobr Medal Goffa  T.H. Huxley Coleg Imperial, Llundain ym 1977.

Roedd John yn aelod hirdymor o Gymdeithas Ecolegol Prydain. Bu’n gwasanaethu ar fwrdd golygyddol “Journal of Ecology” am nifer o flynyddoedd yn y 1970au a’r 80au ac yn y degawd diwethaf, cafodd ei benodi yn un o ddau gyd-olygydd y Cyfnodolyn a gwasanaethu yn y rôl hon am sawl blwyddyn. Ysgrifennodd werslyfr uchel ei barch hefyd, “Environment and Plant Ecology”. Ymddangosodd yr argraffiad cyntaf ym 1975, wedi’i ddilyn gan ail argraffiad ym 1982. Mae hefyd wedi cyhoeddi dau werslyfr byrrach: “Physiological Ecology” a “Soil Waterlogging.”

Roedd yn athro brwdfrydig a dawnus iawn ac ysgogwyd llawer o fyfyrwyr i droi at ecoleg planhigion yn dilyn ei ddarlithoedd a’i gyrsiau maes yn enwedig. Fe gynhaliodd neu addysgodd rhai o’r rhain yng Nghaerdydd, eraill ym Mangor, ond yn enwedig y rhai yng Nghanolfan Malham Tarn yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog.

Roedd yn dipyn o gymeriad, bob amser mewn hwyliau da ac yn gwenu. Roedd ei frwdfrydedd am y pwnc yn heintus. Ymddangosodd fod ganddo wybodaeth hollgynhwysol o ystod o wyddoniaeth gan gynnwys cemeg, daeareg, bioffiseg yn ogystal ag ystod eang iawn o agweddau o fotaneg ac ecoleg. Yn aml, ef oedd y person cyntaf y byddai pobl yn troi ato gydag ymholiad neu broblem. Roedd ganddo gryn ddiddordeb yng ngwaith ei gydweithwyr ac roedd bob tro’n awyddus i drafod syniadau, helpu neu gydweithio.

Cafodd y rhan fwyaf ohonom ein synnu’n fawr pan benderfynodd gymryd pecyn ymddeol cynnar ym 1988, wrth i Goleg Prifysgol Caerdydd ac UWIST uno. Roedd yn 51 oed ac yn fywiog a llwyddiannus iawn yn ei ymchwil. Arhosodd i addysgu’n rhan-amser am ddwy flynedd arall cyn ymddeol yn llawn ym 1990. Yn fuan wedyn, symudodd ef a’i wraig, Sheena, o Lancarfan i blwyf Solfach yn Sir Benfro lle roedd ganddynt fwthyn gwyliau. Fel y byddai un wedi rhagweld, roedd John yn hynod egnïol drwy gydol ei ymddeoliad hir. Roedd yn ohebydd cyson i bapurau newydd lleol a chenedlaethol a chyfnodolion gwyddoniaeth ar ystod o faterion amgylcheddol. Roedd yn benderfynol o herio barn a pholisïau a deimlai oedd yn seiliedig ar dystiolaeth neu ddadleuon camarweiniol, anghyflawn neu ragfarnllyd. Un enghraifft oedd ei wrthwynebiad brwd i ffermydd gwynt, a oedd yn ei farn ef yn niweidiol i’r amgylchedd ac yn anharddu, ac yn ddiau yn methu creu hanner cymaint o allbwn ynni yn ymarferol â’r hyn a honnwyd. Roedd hefyd yn gresynu’r cymorthdaliadau a roddwyd i’r fath ddatblygiadau, a gaiff eu hysgwyddo yn y pen draw gan y defnyddwyr. Roedd ei lyfr, “The Wind Farm Scam”, a gyhoeddwyd yn 2009, yn nodweddiadol o’i ffordd o ysgrifennu; yn seiliedig ar ddadleuon argyhoeddiadol, yn amlygu nonsens a honiadau ffug, ac yn cynnwys cyflwyniadau clir o ffeithiau a ddadansoddiadau a dehongli data manwl.

Mae gan John ddylanwad enfawr ar feddwl ac agwedd llawer o’r myfyrwyr, cydweithwyr a phobl eraill a oedd yn ei adnabod. Bydd llawer wedi trosglwyddo ei ddulliau a’i syniadau i’w myfyrwyr, cydweithwyr a’u cydnabod eu hunain. Dyma ei etifeddiaeth barhaol!

Stuart Davies



Stuart Davies