Ewch i’r prif gynnwys

Dr David R Lees

Rydym yn drist yn cyhoeddi y bu farw ein cydweithiwr David Lees ar 1 Ionawr 2021. Roedd wedi ymddeol ar ôl bod yn Ddarllenydd ac yn gyn-Gyfarwyddwr Addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd David yn sŵolegydd a hyfforddwyd fel genetegydd poblogaeth. Gweithiodd ym Mhrifysgol Caerdydd (Coleg Prifysgol Caerdydd i ddechrau) am dros 30 mlynedd hyd at ei ymddeoliad yn 2004. Roedd yn athro gwych ac ysbrydoledig, yn ymchwilydd o fri ac yn gydweithiwr a ffrind annwyl i lawer ohonom.

Ganwyd David Roger Lees ar 16 Chwefror 1942, a'i fagu yn Birmingham. Roedd yn fiolegydd angerddol, ac ym 1965, David oedd y disgybl cyntaf o'i ysgol i gael lle ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle astudiodd Sŵoleg yng Ngholeg Downing.

Ar ôl graddio, symudodd David i Brifysgol Rhydychen, gan weithio i ddechrau fel cynorthwy-ydd ymchwil gyda Bernard Kettlewell, cymeriad eithaf dadleuol, ac yn ddiweddarach fel myfyriwr PhD gyda Robert Creed. Yn y blynyddoedd hyn gyda Kettlewell a Creed, astudiodd David yr hyn a elwir yn 'felanedd diwydiannol'. Canolbwyntiodd yn bennaf ar y Gwyfyn Pupur (Biston betularia) ac esblygiad amrywiadau melanig lliw tywyll y gwyfyn (y ffurfiau insularia an carbonaria), a nodwyd gyntaf ym Mhrydain ddiwydiannol y 19eg ganrif. Mae cyhoeddiadau David o'r ymchwil hwn yn cynnwys papur Natur 1968 un awdur ('Genetic Control of the MelanicForm Insularia of the Peppered Moth Biston betularia (L.) '). Roedd y corff ehangach o waith yn rhoi tystiolaeth bod y gwyfyn wedi addasu i amgylchedd y chwyldro diwydiannol, sef y melinau satanaidd tywyll gan ddatblygu cuddliw i’w amddiffyn rhag ysglyfaethwyr. Fe'i hystyriwyd yn enghraifft glasurol o esblygiad trwy ddetholiad naturiol.

Fe ddilynodd Robert Creed i Brifysgol Caerdydd ym 1974 fel ymchwilydd ôl-ddoethurol, a chafodd ei benodi’n Ddarlithydd Geneteg yn fuan wedi hynny. Parhaodd â'i ymchwil ar felanedd diwydiannol, gan droi ei sylw at spittlebugs a buchod coch cwta yng nghymoedd de Cymru, yn enwedig o amgylch gwaith tanwydd di-fwg Phurnacite yn Aberpennar. Galwyd y lle unwaith 'y gweithle mwyaf budr yn Ewrop' ... lle delfrydol felly ar gyfer gwaith maes David! Ymhlith ei gyflawniadau ymchwil eraill, bu am nifer o flynyddoedd yn uwch-Olygydd uchel ei barch y Biological Journal of the Linnean Society, y cyfnodolyn biolegol hynaf yn y byd.

Roedd David yn athro talentog iawn, wedi'i baratoi'n dda bob amser, ac yn gyfathrebwr gwych o gysyniadau anodd ym meysydd bioleg a geneteg. Roedd ei ddosbarthiadau i israddedigion ar eneteg poblogaeth yn boblogaidd, ac roedd hynny’n dipyn o gamp mewn maes gwyddoniaeth mor heriol. Cafodd ei gyrsiau gwaith maes ar Ynys Sgogwm ac mewn mannau eraill effaith aruthrol ar lawer o fyfyrwyr, gan eu hysbrydoli i astudio ecoleg ac esblygiad. Yn anad dim, roedd yn unigolyn gofalgar ac yn cadw llygad ar fyfyrwyr oedd yn cael anawsterau neu drafferthion yn y Brifysgol, ac yn eu helpu. Yn yr Ysgol Bioleg Pur a Chymhwysol, yr hen enw ar Ysgol y Biowyddorau, roedd David yn Gyfarwyddwr Addysgu gwych - a’i arweinyddiaeth ef oedd i’w gyfrif i raddau helaeth am yr asesiad Sicrwydd Ansawdd Addysgu 'Ardderchog' a gafodd yr Ysgol bryd hynny.

Roedd David yn gydweithiwr ac yn ffrind eithriadol o garedig, ystyriol a chefnogol. Rhoddodd yn hael o'i amser i fentora sawl aelod staff ar ddechrau eu gyrfaoedd, ac roedd yn gynghorydd dibynadwy i lawer. Rydym yn galaru ei farwolaeth wrth ddathlu ei fywyd.

Professor Andrew Weightman