Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol Arloesol

23 Chwefror 2016

Geoff Mulgan2

Oes o arbrofi ym maes addysg uwch

Mae arbenigwyr o bedwar ban y byd yn ymgasglu yng Nghaerdydd i bwyso a mesur hyd a lled prifysgolion yn y dyfodol, ac i ystyried sut maent yn gweithio gyda myfyrwyr a'r gymdeithas.

Bydd symposiwm undydd rhyngwladol - 'Y Brifysgol Arloesol: oes newydd o arbrofi ym maes addysg uwch' - yn dwyn ysgolheigion blaenllaw ynghyd i drafod ffyrdd y gallai prifysgolion fodloni heriau'r 21ain Ganrif.

Cynhelir y digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Iau (3 Mawrth 2016), ac mae wedi denu llu o gynrychiolwyr rhyngwladol uchel eu proffil. Bydd yn cynnwys anerchiad gan Geoff Mulgan, Prif Weithredwr elusen arloesedd Nesta.

Bydd y digwyddiad hefyd yn clywed am gynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd SPARK, a gaiff ei leoli ar Gampws Arloesedd y Brifysgol, fydd werth £300m, yn troi ymchwil rhagorol yn y gwyddorau cymdeithasol yn atebion 'go iawn'.

Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, y Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r cyfnod hwn yn un anodd ar gyfer prifysgolion, ond mae cyfle hefyd i ni ystyried sut rydym yn gwneud pethau. Sut gall prifysgolion eu hunain fod yn fwy arloesol?  Beth fydd arferion posibl prifysgolion arloesol yn y dyfodol?

"Bwriad y symposiwm rhyngwladol hwn yw tynnu sylw at rai enghreifftiau blaenllaw o arloesedd mewn sefydliadau addysg uwch sy'n amrywio'n ddaearyddol o'r DU, i UDA, a Gwlad y Basg. Maent yn amrywio hefyd o ran cwmpas, o addysgu drwy ymchwil i gael effaith ehangach ar yr economi a'r gymdeithas. Bydd yn ein helpu i ddychmygu prifysgol y dyfodol."

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Mulgan: "Mae prifysgolion yn aml yn llawn pobl greadigol ac arloesol, sy'n aml yn dda iawn am roi ymchwil ar waith mewn meysydd eraill.   Ond yn rhyfedd, mae'r ymchwil a datblygu systematig, a'r arloesedd sy'n digwydd mewn sectorau eraill - treialon, arbrofion, addasu syniadau o feysydd eraill, ac yna darganfod beth sy'n gweithio - ar goll mewn prifysgolion.  Dyna un esboniad am natur cymharol draddodiadol y fformatau sefydlog ar gyfer cyrsiau, ymchwil a rolau, a pham mae prifysgolion wedi bod yn gymharol araf wrth fanteisio i'r eithaf ar adnoddau digidol i rannu gwybodaeth.  Byddaf yn sôn am beth allai arloesedd mwy radical ei olygu ar gyfer prifysgolion - ac yn benodol, sut gallant wella o ran ateb y cwestiynau a datrys y problemau pwysicaf.'

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Caerdydd wrthi'n cynllunio 'Haf Arloesedd,' fydd yn cynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau a digwyddiadau ar gyfer y cyhoedd, myfyrwyr a phartneriaid y Brifysgol, rhwng mis Mehefin a mis Medi 2016.

Rhannu’r stori hon