Rhaglenni dermosgopeg yn ennill achrediad gan Goleg Dermosgopeg Prydain
18 Ebrill 2023

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y ddau gwrs dermosgopeg a gynhelir gan yr Ysgol Meddygaeth wedi cael eu hachredu gan Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain.
Mae Coleg Dermatoleg Prydain (BCD) yn achredu ystod gynhwysfawr o adnoddau addysgol o ansawdd uchel ar gyfer ymgynghorwyr, hyfforddeion, meddygon SAS, myfyrwyr meddygol a'r gymuned gofal iechyd ehangach. Eu nod yw datblygu'r gweithlu dermatoleg, er budd gofal cleifion yn y pen draw.
Er mwyn cael eu hachredu, rhaid i gyrsiau addysgol fodloni meini prawf cadarn, gan gynnwys dysgu myfyriol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddarperir gan weithwyr proffesiynol â chymwysterau a phrofiad priodol. Rhaid i gyrsiau fynd i'r afael â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a hyrwyddo buddiannau'r claf.
Rydym yn falch iawn o gael achrediad gan Gymdeithas Dermotolegwyr Prydain. Mae hyn yn arbennig o ystyrlon oherwydd gall dermatolegwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fod yn hyderus bod yr addysg a gânt gan Brifysgol Caerdydd wedi'i hasesu'n annibynnol i sicrhau safon gyson ac o ansawdd uchel. Croesawir ceisiadau ar gyfer ein cwrs Cyflwyniad i Ddermosgopeg gwreiddiol, sy’n rhedeg yn llwyddiannus ers sawl blwyddyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed pan fydd y derbyniad nesaf ar gyfer Cyflwyniad i Ddermosgopeg Gwallt ac Ewinedd ar agor ar gyfer ceisiadau, gallwch gofrestru eich diddordeb nawr.
Mae Cyflwyniad i Ddermosgopeg yn croesawu ceisiadau gyfer y derbyniad nesaf ym mis Medi 2023. Rhagor o wybodaeth.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ddiddordeb mewn fersiwn bwrpasol o'r naill neu'r llall o'r rhaglenni hyn, neu os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r cyrsiau DPP sydd ar gael yn y Brifysgol, cysylltwch â Charlotte Stephenson yn yr Uned DPP: