Ewch i’r prif gynnwys

Pianydd clasurol yn ymuno ag ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i ysgogi trafodaeth ynghylch newid yn yr hinsawdd

6 Tachwedd 2017

Photograph of Lola Perrin playing the piano

Yn ôl ymchwil, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gofidio am newid yn yr hinsawdd ac eto, mae’r distawrwydd cymdeithasol ar y mater yn llethol. Prin iawn y byddwn yn siarad amdano, a phan fyddwn yn gwneud, gall y sgwrs godi cwestiynau anodd.

Wrth i drafodaethau’r Cenhedloedd Unedig ar newid yn yr hinsawdd fynd rhagddynt yn yr Almaen, bydd Caerdydd yn rhoi llwyfan i drafodaeth wahanol ar yr hinsawdd, ar ffurf cyngerdd yn Eglwys Dewi Sant.

Fel rhan o NodauHinsawdd – menter fyd-eang sy’n cynnwys dros dri deg o gyngherddau mewn naw gwlad – bydd y noson o gerddoriaeth, sgyrsiau a thrafodaethau yn annog pobl i feddwl a siarad am newid yn yr hinsawdd mewn ffyrdd newydd, sy’n arwain at ymatebion cadarnhaol a gobeithiol. Mae’r gyngerdd yn cael ei chynnal fel rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd 2017.

Sefydlwyd NodauHinsawdd gan y gyfansoddwraig a’r pianydd sy’n seiliedig yn Llundain, Lola Perrin. Mae’n cynnwys pianyddion cyngherddau ac arbenigwyr ar newid yn yr hinsawdd yn cydweithio mewn perfformiadau sy’n cynnwys sgwrs gyda’r gynulleidfa am ymateb cadarnhaol i newid yn yr hinsawdd.

Hyd yn hyn, mae dros gant o gerddorion cyngherddau a siaradwyr gwadd mewn ugain o wledydd wedi ymuno â NodauHinsawdd. Mae mwy o gyngherddau’n cael eu cynllunio yn ystod 2018. Eglurodd Lola Perrin pam, fel cerddor proffesiynol, ei bod wedi rhoi’r prosiect ar waith a dwyn cerddorion eraill ar y daith gyda hi: "Mae’n rhaid i siarad am newid yn yr hinsawdd symud i fan canolog ym mhopeth y gwnawn, felly rydym yn gasgliad o bianyddion cyngherddau sy’n rhoi’r sgwrs wrth galon ein cyngherddau."

Ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd, mae Dr Stuart Capstick o Brifysgol Caerdydd a Dr Adam Corner o’r elusen Climate Outreach yn ymuno â Lola Perrin. Mae gan Stuart ac Adam ill dau gefndir ym maes Seicoleg, a’r modd y mae pobl yn deall ac yn ymateb i newid yn yr hinsawdd.

Yn ôl Dr Capstick: "Gall newid yn yr hinsawdd ymddangos fel rhywbeth llethol, yn gymhleth dros ben ac wedi’i ddatod o’n bywydau bob dydd. Serch hynny, mae’n dal i fod gennym lawer o gyfleoedd i warchod yr hyn sy’n bwysig i ni, ac i wneud pethau’n wahanol..."

"Rwy’n gobeithio y gallwn ysgogi trafodaeth ar sut y gallwn gymryd y fenter ar newid yn yr hinsawdd, a theimlo ein bod wedi ein hannog a’n hysbrydoli i weithredu."

Dr Stuart Capstick Yr Ysgol Seicoleg

Ychwanegodd Dr Corner: "Mae’n bwysig iawn ein bod yn ceisio torri’r diffyg sgwrsio ynghylch newid yn yr hinsawdd ac wynebu realiti hinsawdd sy’n newid, yn yr un ffordd ag y byddem yn mynd i’r afael ag unrhyw fater arall o fewn cymdeithas. Pe gallwn siarad am yr hyn y mae newid yn yr hinsawdd yn ei olygu ar gyfer y pethau a garwn a’r dyfodol y dymunwn ei gael, bydd gennym well cyfle o adeiladu byd carbon isel."

Cynhelir y digwyddiad yn Eglwys Dewi Sant (Eglwys Dewi Sant, Cilgant St Andrew, ger yr Amgueddfa Genedlaethol), rhwng 8pm a 9:30pm ddydd Gwener 10 Tachwedd.

Pob croeso i bawb fynd i’r gyngerdd a’r sgyrsiau, a rhwydd hynt i chi ymuno yn y drafodaeth ynghylch y materion hyn. I gael rhagor o wybodaeth ac archebu tocyn yn rhad ac am ddim, gweler gwefan NodauHinsawdd.

Rhannu’r stori hon

Archwiliwch ein sefydliadau, canolfannau a grwpiau i ddysgu sut mae ein hymchwil yn ymateb i faterion cynaliadwyedd.