Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol y gwyddorau cymdeithasol

5 Mai 2015

Coloured speech bubbles

Digwyddiad yn tynnu sylw at werth y gwyddorau cymdeithasol i economi a chymdeithas y DU

Mae ymchwil y Brifysgol i'r gwyddorau cymdeithasol wedi cael sylw mewn digwyddiad a oedd yn pwysleisio gwerth y maes i economi a chymdeithas y DU.

Yn y cyfnod cyn yr Etholiad Cyffredinol, mae'r Ymgyrch ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol yn ymweld â phrifysgolion yn y DU i siarad â gwyddonwyr cymdeithasol am ei adroddiad newydd, The Business of People.

Mae sioe deithiol yr Ymgyrch yn ceisio meithrin llais cryf ac unedig ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol ar yr adeg dyngedfennol hon, a daeth i ymweld â Chaerdydd ar 17 Ebrill 2015.  Roedd y gynulleidfa'n cynnwys aelodau o staff y Brifysgol gyfan, yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ynghyd â chyflwyno argymhellion ei adroddiad newydd The Business of People: The Significance of Social Science over the Next Decade, bu aelodau o fwrdd yr Ymgyrch yn gwrando ar y safbwynt lleol ynghylch yr heriau a'r cyfleoedd ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol ar ôl yr etholiad.

Roedd siaradwyr yn y digwyddiad yn cynnwys yr Athro George Boyne, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a'r Athro Justin Lewis, Deon Ymchwil y Coleg ac Athro Cyfathrebu yn yr Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.

Y rhai eraill a fu'n siarad yn y Brifysgol oedd: Yr Athro Rick Delbridge, Ysgol Busnes Caerdydd; yr Athro Simon Murphy, y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd; yr Athro Steve Martin, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru; yr Athro Sally Power, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru; yr Athro Dan Wincott, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd a oedd yn cynrychioli Canolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru (DTC) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC); a'r Athro Martin Innes o Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu a Sefydliad Ymchwil newydd y Brifysgol ar Drosedd a Diogelwch.

Gwnaeth gwaith ymchwil arloesol ac amrywiol Prifysgol Caerdydd i'r gwyddorau cymdeithasol, a'r effaith mae'n ei chael, greu argraff ar siaradwyr Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol.  Siaradodd David Walker a Roses Leech-Wilkinson ar ran yr Ymgyrch, gyda Jonathan Breckon, Rheolwr y Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth Ddefnyddiol ac aelod o fwrdd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ymuno â nhw.

Yn ystod y digwyddiad, rhoddwyd sylw i gynlluniau'r Brifysgol ar gyfer Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd ac effaith ymchwil canolfannau fel Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu a WISERD (Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru), ymysg pethau eraill.

Dywedodd yr Athro Boyne: "Mae disgyblaethau'r gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwneud cyfraniad cryf iawn i lwyddiant y Brifysgol, gan gynnwys canlyniadau REF 2014 eithriadol o dda mewn disgyblaethau fel Busnes a Rheoli, Addysg, Newyddiaduraeth a Chymdeithaseg.  Rydym yn ddiolchgar i'r Ymgyrch ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol am eu gwaith rhagorol wrth hyrwyddo cyd-destun polisi cefnogol ar gyfer ansawdd ac effaith ein gwaith ymchwil."

Rhannu’r stori hon