Ewch i’r prif gynnwys

Labordy newydd gwerth £500,000 i hyfforddi cemegwyr y dyfodol

17 Ebrill 2015

VC and Guests in Catalysis lab
Enjoying a tour of the new £500,000 catalysis lab are (left to right): Professor Graham Hutchings, Director of the Cardiff Catalysis Institute; Professor Colin Riordan, Vice-Chancellor, Cardiff University; Professor Paul Pringle, University of Bristol and Dr Pawel Plucinski, University of Bath.

Bydd canolfan wyddoniaeth uwch dechnoleg bwrpasol ar gyfer hyfforddi arweinwyr y byd mewn catalyddu yn agor ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn cynnig labordy gwyddoniaeth ac ystafell seminar newydd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio catalyddu – sef gwyddor cyflymu newid cemegol.

Mae'r ystafelloedd newydd wedi'u lleoli yn Sefydliad Catalyddu Caerdydd – un o bump o brif ganolfannau ymchwil catalyddu gorau'r byd, a'r cyfleuster mwyaf blaenllaw o'i fath yn y DU.

Ers ei sefydlu yn 2008, mae'r Sefydliad wedi cynhyrchu dros £23 miliwn o incwm. Mae gan y 70 o ymchwilwyr enw da ledled y byd, maent wedi ennill gwobrau rhyngwladol mawr ac wedi ffurfio perthnasoedd gyda sefydliadau blaenllaw, gan gynnwys Max Planck.

Dywedodd yr Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalyddu Caerdydd: "Mae myfyrwyr yn dod o bob cwr o'r byd i ymuno â'r rhaglen hyfforddiant doethurol rhagorol yn rhyngwladol, a gynhelir mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Caerfaddon a Bryste.

"Mae'r labordy newydd gwerth £500,000, sy'n cynnwys offer sgrinio a phrofi catalyddion, ynghyd â'r ystafell seminar uwch dechnoleg ar gyfer 16 o bobl, i roi'r lle sydd ei angen ar ein myfyrwyr doethurol dawnus i dyfu, a bydd yn ein helpu ni i barhau i feithrin ein henw da fel sefydliad o'r radd flaenaf."

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae ein buddsoddiad yn y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn arddangos y gwerth rydym ni, fel prifysgol ymchwil o'r radd flaenaf, yn ei roi ar waith y Sefydliad Catalyddu a'i bwysigrwydd strategol tymor hir.  Mae gwyddor catalyddu wrth wraidd cymdeithas. Mae'n cyfrannu dros £50 biliwn y flwyddyn i economi'r DU trwy wella iechyd, rhannu gwybodaeth ac achub bywydau.

"Yn gynharach eleni, cyhoeddom bartneriaeth newydd rhwng yr Athro Hutchings a'r Athro Robert Schlögl o Sefydliad Fritz Haber ym Merlin ar raglen newydd o ymchwil catalyddu fel rhan o Rwydwaith Ynni Maxnet."

Mae'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol newydd yn cynnig hyfforddiant ôl-raddedig i 12 o fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer Gradd Meistr mewn Catalyddu a Pheirianneg Adweithiol.

Bydd y myfyrwyr yn datblygu cronfa wybodaeth fanylach am ddisgyblaethau catalyddu a dealltwriaeth o gyd-destunau'r diwydiant a byd-eang i hybu a datblygu'r sector catalyddu yn y DU.

Bydd y myfyrwyr yn cofrestru gyda Chaerdydd fel eu prifysgol 'cartref' ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Wedyn, gallant ddewis dilyn eu hastudiaethau ym Mryste neu yng Nghaerfaddon wrth iddyn nhw ddewis opsiynau eraill.

Rhannu’r stori hon