Ewch i’r prif gynnwys

Cannoedd o fyfyrwyr Caerdydd yn anelu at godi miloedd o bunnoedd i ysbyty plant

17 Tachwedd 2014

Med Day

Mae myfyrwraig meddygaeth sydd yn ei phedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn arwain ymgyrch codi arian o'r enwMed Day, gyda'r bwriad o godi £10,000 ar ran achosion meddygol lleol.

Cynhelir Med Day ar 21 Tachwedd 2014, lle bydd cannoedd o fyfyrwyr meddygol a deintyddol yn heidio ar strydoedd y ddinas gyda'u blychau casglu. Y gobaith yw darbwyllo cymaint o fyfyrwyr ag sy'n bosibl i godi arian ar ran achosion meddygol. Bydd nifer o gymdeithasau yn cymryd rhan, gyda'r Gymdeithas Bobi yn darparu cacennau ar gyfer stondin yn Ysgol Biowyddorau'r Brifysgol.

Gyda chymorth tîm o fyfyrwyr, mae Helen Iliff, myfyrwraig meddygaeth sydd yn ei phedwaredd flwyddyn, wedi bod yn trefnu'r digwyddiad ers Awst 2013. Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Helen: "Gyda help nifer o noddwyr, rydym yn gobeithio bydd yr ymgyrch yn codi £10,000.

"Yn unol â dymuniadau myfyrwyr meddygaeth a deintyddiaeth y Brifysgol, a oedd eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod yn union ble mae eu harian yn mynd, bydd yr holl arian a godir yn ystod y dydd yn mynd tuag at brynu offer meddygol i Ysbyty Arch Noa a'r Gymdeithas Taflod Hollt (CLAPA).

"Byddwn yn gwisgo crysau gwyrdd llachar, felly cadwch eich llygaid ar agor amdanom!"

Ysbrydolwyd y digwyddiad hwn a arweinir gan fyfyrwyr gan ddigwyddiad tebyg sy'n cael ei drefnu gan fyfyrwyr Coleg y Drindod, Dulyn, sy'n codi £50,000 bob blwyddyn ar ran achosion meddygol lleol.

Mae'r tîm wedi sicrhau cymorth cynfyfyriwr yr Ysgol Feddygaeth, y chwaraewr rygbi rhyngwladol Dr Jamie Roberts. Dyma lun ohono'n gwisgo crys-t Med Day i ddangos ei gefnogaeth.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau codi arian yn digwydd yn ystod y cyfnod yn arwain at y diwrnod. Bydd myfyrwyr yn gwerthu tocynnau raffl gyda'r cyfle i ennill crys rygbi Cymru wedi'i lofnodi. Yn ogystal, byddant yn gofyn i bobl Caerdydd gymryd rhan yn 'Get Pie'd', sef ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i ffilmio'u hunain yn cael plât o ewyn eillio neu hufen wedi'i daflu yn eu hwynebau, cyn enwebu rhywun arall i wneud yn debyg a rhoi arian ar-lein.

Gallwch ddilyn Med Day ar Twitter er mwyn cael y newyddion diweddaraf: @meddaycardiff Gallwch roi arian ar-lein trwy Virgin Money.

Rhannu’r stori hon