Ewch i’r prif gynnwys

‘Pryder difrifol’ dros gost achosion y Llys Gwarchod

2 Chwefror 2015

Close-up of gavel being used, with judge in background

Mae cost achosion lles y Llys Gwarchod i awdurdodau lleol yn bryder difrifol ac mae amrywiaethau sylweddol rhwng awdurdodau lleol Lloegr a Chymru o ran nifer yr achosion lles a ddaw gerbron y Llys.

Dyna rai o ganfyddiadau ymchwil newydd gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a geisiodd gwybodaeth am gostau a hyd nodweddiadol achosion y Llys Gwarchod fel ymateb i bryderon ynghylch hygyrchedd ac effeithlonrwydd y Llys a honiadau y gallai achosion lles fod yn ddrud ac yn araf iawn.

Mae'r Llys Gwarchod, a sefydlwyd gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn gwneud penderfyniadau ar ran pobl yr ystyrir eu bod heb y galluedd meddyliol i wneud hynny mewn perthynas i'w lles, cyllid ac eiddo. Mae materion o golli rhyddid hefyd yn ffurfio rhan sylweddol o gyfraith achosion y Llys Gwarchod.

Gan ddefnyddio gwybodaeth gan awdurdodau lleol am eu hymglymiad yn achosion lles y Llys Gwarchod yn ystod 2013-14, archwiliodd ymchwilwyr Caerdydd pa mor aml roedd awdurdodau lleol yn ymwneud ag ymgyfreithiad lles yn y Llys Gwarchod, faint mae achosion lles y Llys Gwarchod yn costio i awdurdodau lleol ac am ba mor hir mae achosion lles y Llys Gwarchod yn parhau fel arfer.

Gwelsant fod rhan fwyaf yr awdurdodau lleol yn Lloegr a Chymru wedi ymwneud ag o leiaf un achos lles yn y Llys Gwarchod yn 2013-14. Fodd bynnag, roedd awdurdodau lleol yn Lloegr yn ymwneud â nifer sylweddol fwy na'r rhai yng Nghymru.

Gwneir y rhan fwyaf o geisiadau lles i'r Llys Gwarchod gan awdurdodau lleol, yn ôl canfyddiadau'r ymchwil. Mae ceisiadau gan aelodau'r teulu, eiriolwyr a phobl y dywedir eu bod heb galluedd meddylion yn gymharol brin. Yn gyffredinol, roedd nifer yr achosion yn ymwneud â threfniadau diogelu rhag colli rhyddid Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn isel, sy'n codi pryderon ynglŷn ag a all pobl ymarfer hawliau i apelio yn erbyn eu caethiwo yn effeithiol.

Yn nodedig, mae'r ymchwil yn cadarnhau bod cost achosion lles y Llys Gwarchod i awdurdodau lleol yn sylweddol, ac mae hanner yr holl achosion yn yr astudiaeth yn costio £8,150 neu'n fwy. Yn ogystal, mae'r astudiaeth yn ategu'r pryderon a fynegir yn eang y gall ymgyfreithiad lles yn y Llys Gwarchod barhau'n hir iawn a gwelwyd mai hyd nodweddiadol achos lles y Llys Gwarchod oedd 12 mis.

Dywedodd y tîm ymchwil, "Mae cost uchel achosion y Llys Gwarchod yn fater o bryder difrifol ac mae'r rhesymau sylfaenol dros gost uchel  a hyd hir achosion y Llys Gwarchod yn gofyn am ymchwiliad ar frys.

"Dylai'r rhai sy'n gyfrifol am fonitro iechyd a gofal cymdeithasol yn gyffredinol a threfniadau diogelu rhag colli rhyddid yn benodol, sicrhau bod yr awdurdodau'n deall ac yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau i gyfeirio achosion at y Llys Gwarchod yn unol ag arweiniad cyfreithiol."

Mae'r adroddiad Use of the Court of Protection's welfare jurisdiction by supervisory bodies in England and Wales ar gael yma.  Cafodd yr ymchwil ei hariannu gan Sefydliad Nuffield, ac roedd y tîm ymchwil yn cynnwys tri myfyriwr israddedig wedi'u hariannu ar y cyd gan y Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil i Fyfyrwyr Israddedig Caerdydd (CUROP) a Chanolfan y Gyfraith Gofal Cymdeithasol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Rhannu’r stori hon