Ewch i’r prif gynnwys

Ffocws ar Gynaliadwyedd 2015

4 Chwefror 2015

Girl shopping in a farmers' market

Beth yw gwir ystyr dyfodol bwyd cynaliadwy a sut gallwn ni sicrhau ein bod ni'n ei gyflawni? Dyna'r cwestiwn a fydd yn cael ei ofyn yn ystod trafodaeth Ffocws ar Gynaliadwyedd y Brifysgol.

Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Iau 5 Mawrth 2015, bydd 'Dyfodol ein bwyd – beth ddylai fod ar y fwydlen?' yn drafodaeth fywiog ac ysgogol a fydd yn archwilio materion sy'n gysylltiedig â chreu dyfodol bwyd cynaliadwy.

Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth a Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy gan ddod ag ystod o academyddion ac ymarferwyr ynghyd o'r sector bwyd i ystyried y cyfleoedd a'r heriau y maen ein systemau bwyd yn eu hwynebu ac i drafod sut byddai modd sicrhau dyfodol bwyd cynaliadwy.

Dywedodd yr Athro Terry Marsden o Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy y Brifysgol: "Mae systemau cynhyrchu bwyd y byd yn wynebu her gydbwyso go iawn. Er mwyn cwrdd ag anghenion gwahanol, rhaid iddynt gynhyrchu llawer mwy o fwyd ar gyfer poblogaeth a fydd, yn ôl y disgwyl, yn cyrraedd oddeutu 9.6 biliwn o bobl erbyn 2050, darparu cyfleoedd economaidd i gannoedd o filiynau o bobl wledig dlawd sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth i wneud bywoliaeth, a gostwng effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys dirywio ecosystemau ac allyriadau nwyon tŷ gwydr uchel."

"Yma yn y Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy rydym yn gweithio ar faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd mewn lleoliadau ledled y byd, gyda rhai ohonynt mewn perthynas â bwyd. Bydd ein hymchwilwyr gorau yn cyflwyno'u gwybodaeth a gwaith ymchwil blaengar yn y digwyddiad addysgiadol a difyr hwn."

Cynhelir y drafodaeth ddydd Iau 5 Mawrth 2015 fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau ar draws y Brifysgol yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd (23 Chwefror – 6 Mawrth 2015) ac sy'n anelu at hyrwyddo gwaith ymchwil y Brifysgol a rhoi cyfle i staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach gyfrannu at drafodaethau sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd.

Mae tocynnau yn rhad ac am ddim ond rhaid eu harchebu o flaen llaw. Mae'r drafodaeth yn cychwyn am 6.30pm (bydd y digwyddiad ei hun yn dechrau gyda derbyniad diodydd am 5.30pm) yn Ystafell Pwyllgor 1 a 2 Adeilad Morgannwg.