Ewch i’r prif gynnwys

Menter newydd i gefnogi newyddiaduraeth ddigidol Cymraeg

21 Ionawr 2015

Journalism news

Mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd a Golwg, y cylchgrawn newyddion Cymraeg, yn gwahodd cymunedau ledled Cymru i gymryd rhan mewn menter newydd i ddysgu sgiliau newyddiaduraeth a chyhoeddi digidol yn y Gymraeg.

Bydd 'Digidol ar Daith' yn cynnal sesiynau hyfforddi rhad ac am ddim mewn 12 cymuned o Langefni i Landeilo, ac anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu a rhannu newyddion a gwybodaeth yn Gymraeg i gofrestru â'r cynllun.

Dywedodd Emma Meese, Rheolwraig a hyfforddwr y Ganolfan:

"Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un - clwb, grŵp chwaraeon, papur bro neu unigolion - i gael hyfforddiant ac ysbrydoliaeth o'r radd flaenaf ac i gyfarfod pobl o'r un anian â nhw yn eu cymuned.

"Caiff y sesiynau hyfforddi hanner diwrnod eu hategu gan sesiynau tiwtorial ymarferol ar-lein a chanllawiau argraffedig.

"Byddwn yn ymdrin â sgiliau craidd newyddiaduraeth ddigidol ac yn dangos i bobl rai o'r arfau sydd ar gael i hwyluso'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol o bwys yn y Gymraeg.

"Rydym yn gobeithio y bydd y diwrnod yn bleserus iawn ac y bydd yn ddechrau ar ddatblygiadau gwych."

Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, y nod yw gweld rhagor o gynnwys Cymraeg o safon uwch ar-lein a chefnogi newyddiaduraeth gymunedol fywiog.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae gan Gymru draddodiad balch o rannu newyddion cymunedol.  Mae'r fenter hon, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn defnyddio'r dechnoleg digidol diweddaraf i gefnogi'r Gymraeg fel iaith fyw bob dydd, ac i ddatblygu dulliau o gyfnewid y newyddion, safbwyntiau a gwybodaeth leol.  Bydd hyn nid yn unig yn hybu'r iaith ond hefyd yn helpu i wneud ein cymunedau'n llefydd gwych i fyw."

Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Emma Meese, sy'n hyfforddwr Cyfryngau Cymdeithasol gyda'r BBC yn ogystal â rheolwraig y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, a chan Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, ac un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg heddiw.

Datblygwyd Digidol ar Daith gan y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, sy'n gyfuniad unigryw o waith ymchwil, cymorth cymunedol a hyfforddiant yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol flaenllaw Prifysgol Caerdydd. Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol sy'n anelu at rannu gwybodaeth ac arbenigedd er budd cymunedau yng Nghymru.

Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnal fel a ganlyn:

Yr Wyddgrug - 10 Chwefror

Llanrwst - 11 Chwefror

Llangefni - 11 Chwefror

Caernarfon - 12 Chwefror

Porthmadog - 12 Chwefror

Llanfair-ym-Muallt - 13 Chwefror

Aberystwyth - 3 Mawrth

Llanbedr Pont Steffan - 3 Mawrth

Hendy-gwyn ar Daf - 6 Mawrth

Caerdydd - 11 Mawrth

Llanelli - 13 Mawrth

Llandeilo - 13 Mawrth

Rhannu’r stori hon