Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg

30 Mawrth 2017

Osian Morgan, Swyddog y Gymraeg
Osian Morgan, Swyddog y Gymraeg

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd newydd gyhoeddi ei fod yn mynd ati i sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC).

Dyma ddatblygiad cyffrous a hollbwysig i fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd, ac mae'r Undeb yn anelu at ei sefydlu erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

Yng nghyfarfod Senedd y Myfyrwyr yn yr Undeb ddoe, pleidleisiodd 87% o’r seneddwyr o blaid sefydlu UMCC, gan roi sêl bendith a mandad pellach i'r Undeb fynd ati i’w sefydlu cyn gynted â phosibl.

Bydd UMCC yn gorff a fydd yn cynrychioli siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Prifysgol Caerdydd, ymhob agwedd o’u bywydau yn y Brifysgol – boed yn academaidd, cymdeithasol, ieithyddol, gwleidyddol, neu gyda materion lles o fewn yr Undeb a’r Brifysgol.

Gwella profiad y myfyriwr Cymraeg

Bydd UMCC yn gweithio’n agos iawn gyda’r cymdeithasau Cymraeg sydd eisoes yn bodoli yn y Brifysgol, i'w cefnogi ac er mwyn gwella’r profiad o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym mhrifddinas Cymru.

Dywedodd Osian Morgan, Swyddog y Gymraeg yn yr Undeb:

"Ers sefydlu UMCA yn Aberystwyth yn 1973, ac UMCB ym Mangor yn 1976 , rydym wedi bod pedair degawd ar ei hôl hi o ran cynrychiolaeth i fyfyrwyr Cymraeg a dysgwyr yn ein prifddinas, ac mae datblygiad fel hwn yn rhywbeth a ddylai wedi digwydd degawdau yn ôl – ond gwell hwyr na hwyrach. Rwy’n hyderus y bydd sefydlu UMCC yn gam cadarnhaol ac angenrheidiol ar ein taith i sicrhau cydraddoldeb ieithyddol i fyfyrwyr Cymraeg yn ein Prifddinas."

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Rhannu’r stori hon