Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad newydd yn dweud y bydd cytundeb cyllidol Cymru’n chwyddo coffrau'r Llywodraeth gyda channoedd o filiynau o bunnoedd

10 February 2017

Senedd - iStock

Gallai cyllideb Llywodraeth Cymru gynyddu dros £120 miliwn y flwyddyn erbyn 2028, a £600 miliwn dros y ddegawd nesaf, o ganlyniad i'r cytundeb Fframwaith Cyllidol newydd i Gymru.

Dyma brif gasgliad adroddiad newydd, Fair Funding for Taxing Times?, a gyhoeddir heddiw (13 Chwefror) gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol. Mae'r adroddiad yn asesu'r cytundeb cyllido newydd rhwng Trysorlys EM a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016.

Mae'r hwb o ran cyllid i Gymru, o'i gymharu â'r hyn y byddai'n ei dderbyn dan fformiwla Barnett yn unig, yn deillio o 'lawr cyllido' newydd a fydd yn gwneud mwy na chydbwyso'r colledion disgwyliedig yn sgil y ffordd y caiff grant bloc Cymru ei addasu ar ôl datganoli trethi.

Yn eu hadroddiad, mae'r awduron yn amlygu'r canlynol:

*          Ar ôl datganoli tua £2.5 biliwn o refeniw treth i Gymru, caiff swm cyfatebol ei dorri o grant bloc cyfredol Cymru. Yna bydd yr Addasiad i'r Grant Bloc yn newid o flwyddyn i flwyddyn ar sail yr hyn sy'n digwydd i refeniw cyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.  Mae hyn yn golygu bod perfformiad cymharol refeniw Cymru (a pholisi treth Llywodraeth Cymru) yn dod yn bwysig iawn i gyllideb Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf. Caiff yr Addasiadau Hyn i'r Grant Bloc eu cyfrif ar wahân ar gyfer pob band treth incwm, gan gydnabod y risgiau penodol o'r lefel incwm is yng Nghymru.

*          Bydd y dull o weithredu'r Addasiad i'r Grant Bloc a gytunir yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru'n wynebu risg refeniw'n gysylltiedig â phoblogaeth. A chymryd bod poblogaeth Cymru wedi bod yn tyfu'n arafach na phoblogaeth Lloegr a Gogledd Iwerddon ers peth amser, ac y rhagwelir y bydd yn parhau felly, gallai hyn olygu bod cyllideb Cymru'n colli oherwydd twf poblogaeth arafach, hyd yn oed os yw refeniw y pen yng Nghymru'n tyfu'r un mor gyflym ag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

*          Mae'r cytundeb hefyd yn cyflwyno "ffactor yn seiliedig ar anghenion" newydd yn fformiwla Barnett. 0 2018-19, bydd cynyddrannau a drosglwyddir i gyllideb Cymru 5% yn uwch nag y bydden nhw o dan y fformiwla Barnett gwreiddiol. Er bod cyllid cymharol Cymru ar hyn o bryd yn uwch na'r angen cymharol a amcangyfrifwyd gan Gomisiwn Holtham, mae'r lluosydd wedi'i gynllunio i sicrhau bod cyllid cymharol y pen yng Nghymru'n aros dros 115% y lefel yn Lloegr. Pan fydd cyllid y pen yng Nghymru'n cydgyfeirio i lawr i'r lefel hon, bydd y ffactor yn cynyddu o 105% i 115%. Dan ragdybiaethau rhesymol o wariant a thwf poblogaeth, bydd y 'cyfnod trosiannol' hwn lle bydd y lluosydd yn 105% yn para am ddegawdau.

*          Gan dybio y bydd twf gwariant yn Lloegr yn dychwelyd i 4% y flwyddyn ar ôl i'r cyfnod o lymder ddod i ben, a bod twf poblogaeth yn cyd-fynd â'r rhagfynegiadau cyfredol, bydd y cyllid ychwanegol a ddarperir gan y ffactor sy'n seiliedig ar anghenion yn gwneud mwy na gorbwyso colledion refeniw sy'n gysylltiedig â phoblogaeth. Gyda'i gilydd, gallai hyn olygu bod yn agos i £600 miliwn yn fwy ar gael dros 10 mlynedd gyntaf y cytundeb na phe bai Llywodraeth Cymru'n parhau i gael ei chyllido gan fformiwla Barnett fel y mae ar hyn o bryd.

Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd cydawdur Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:"Mewn termau ariannol pur, mae'r cytundeb yn fargen dda i Lywodraeth Cymru, gyda llawer mwy o gyllid yn debygol o fod ar gael o ganlyniad i newidiadau yn ei chyllid grant bloc a gwariant cyfalaf ychwanegol o ganlyniad i gynnydd yn y pwerau benthyca.

“Fodd bynnag, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn colli allan os bydd y refeniw yn tyfu’n araf oherwydd twf poblogaeth araf Cymru, fe fydd hi’n fwy anodd asesu eu perfformiad o ran rheoli trethi. Fe fydd tryloywder a gwybodaeth gyllidebol ar refeniw datganoledig, y grant bloc, a’r addasiadau a wnaed ar gyfer datganoli treth yn hanfodol i hybu atebolrwydd cyllidol a chynorthwyo dealltwriaeth o newidiadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Yn yr un modd, dylai datganiadau gael eu darparu i drethdalwyr unigol yn datgan yn glir y trethi y maent wedi talu i lywodraethau Cymru a’r DU.”

Ychwanegodd David Phillips o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a chydawdur yr adroddiad:"Er bod cynnwys elfen sy'n seiliedig ar anghenion yn fformiwla Barnett yn rhywbeth i'w groesawu, nid yw'r cytundeb yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer diweddaru'r asesiad o anghenion cymharol yn y dyfodol. Hyd yn oed ar adeg ei gyflwyno bydd y cyfrifiad yn seiliedig ar asesiad sydd eisoes yn ddeg oed. Gallai hyn greu tensiwn, os daw i'r amlwg fod anghenion cymharol Cymru'n newid, ac felly mae'r cytundeb yn annhebygol o roi terfyn ar y ddadl am fframwaith cyllidol Cymru.

"Gan edrych ar draws y DU gyfan, mae trefniadau cyllido datganoledig yn edrych yn gynyddol anghymesur ac ad hoc. Bydd gwahaniaethau sylweddol nawr yng ngraddfa a chyfansoddiad trethi datganoledig a threthi a gedwir yn ôl ar draws pob gwlad; yn y modd y caiff eu grantiau bloc eu pennu a'u haddasu dros amser; ac yng nghapasiti benthyca a rheoli cyllideb pob llywodraeth ddatganoledig."

Rhannu’r stori hon