Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd i ganolbwyntio ar annog disgyblion ag AAA fynd i Addysg Uwch

13 Mehefin 2012

SEN

Mae cynhadledd newydd gyda'r nod o annog mwy o bobl ifanc sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA) i barhau i mewn i addysg uwch yn cael ei chynnal yn y Brifysgol heddiw.

Mae'n dod â chydlynwyr AAA (CAAA), athrawon a chynorthwywyr ynghyd sy'n gweithio mewn ysgolion ledled Cymru. Trefnwyd y gynhadledd undydd gan Dîm Ehangu Mynediad y Brifysgol mewn ymateb i adborth gan ysgolion.

Fe'i cynlluniwyd i ddarparu mwy o wybodaeth ac arweiniad penodol am y cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael yn y brifysgol i bobl ifanc sydd â datganiad o AAA, a gobeithir y bydd y digwyddiad yn helpu hyrwyddo addysg uwch yn well i'r grŵp hwn sydd wedi'i dangynrychioli. Mae datganiad o anghenion addysgol arbennig yn ddogfen gyfreithiol sy'n nodi anghenion addysgol arbennig plentyn fel yr aseswyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol.

Dywedodd Scott McKenzie, sy'n Swyddog Ehangu Mynediad: "Mae gan ryw 14,000 o ddisgyblion (2.2%) yng Nghymru ddatganiad o AAA ond nid yw'r wybodaeth am brifysgolion a ddarperir i ysgolion bob amser yn ateb cwestiynau penodol am gefnogaeth sydd ar gael i'r disgyblion hyn.

"Mae'r athrawon a'r staff cymorth eraill sy'n mynychu'r gynhadledd hon yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu'r bobl ifanc hyn i wneud penderfyniadau pwysig am eu dyfodol addysgol. Mae'n bwysig bod ganddynt fynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf er mwyn annog myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo i feddwl am y brifysgol fel opsiwn sy'n agored iddynt. Drwy gynnal y digwyddiad hwn, gallwn helpu sicrhau na fydd myfyrwyr ag anghenion dysgu penodol yn digalonni rhag gwneud cais i brifysgol oherwydd eu bod angen cefnogaeth ychwanegol."

Bydd y gynhadledd yn trafod y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr drwy gydol y broses o wneud cais, yn ogystal â chymorth penodol sydd ar gael yn y brifysgol megis cyllid ychwanegol, gwasanaethau cymorth eang, a llety.

Rhannu’r stori hon