Ewch i’r prif gynnwys

Helpu elusennau i lwyddo

29 Mehefin 2012

Cardiff Business School students
(chwith i’r dde) - Matthew Exton, Rheolwr Rhaglenni MBA; Julie Skelton Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3G; Omoghome Ofu; Emil Bashirov; Kawther Jamal; Bashar Zreigat; Caron Jennings, Cymorth i Ddioddefwyr, Helen Turner, Banc Bwyd Caerdydd; a Graeme Pauley, PA Consulting Group.

Mae myfyrwyr Ysgol Fusnes Caerdydd wedi bod yn helpu elusennau a sefydliadau dielw lleol i ddatblygu eu syniadau busnes.

Bu myfyrwyr modiwl ymgynghoriaeth fusnes MBA yn gweithio ar y cyd â PA Consulting Group i gynnig argymhellion busnes i sefydliadau lleol ar gyfer gwella eu strategaethau busnes.

Mae Banc Bwyd Caerdydd, Sero Wastraff 3G, Play on the Move a Chymorth i Ddioddefwyr i gyd wedi derbyn cyngor ymgynghoriaeth myfyrwyr.

Darparwyd hyfforddiant ymarferol a chymorth i'r myfyrwyr gan PA a daeth y fenter i ben mewn digwyddiad gwobrwyo a fynychwyd gan bawb a fu'n cyfranogi.

Dywedodd Graeme Pauley, arbenigwr mewn gwyddor a strategaeth penderfyniadau yn PA Consulting Group: 'Dyma'r ail flwyddyn i PA weithio gydag Ysgol Fusnes Caerdydd i gefnogi'r fenter hon, sydd wedi'i modelu ar ein dulliau o ddatblygu staff trwy ein gwaith er budd y cyhoedd.

"Mae'n gyffrous iawn i mi a fy nghydweithwyr i brofi brwdfrydedd ac agwedd broffesiynol y myfyrwyr yn y fan a'r lle. Mae'n ymddangos fod yna ddyfodol disglair i'r diwydiant ymgynghoriaeth fusnes a'i gleientiaid."

Ychwanegodd Tracey Bancroft, a sefydlydd y sefydliad di-elw Play On The Move Cyf: "Roedd y myfyrwyr yn dangos diddordeb a brwdfrydedd ynghylch fy sefydliad. Trefnwyd ymweliadau i wneud y siŵr eu bod yn cael syniad da o werthoedd, cenhadaeth ac amcanion cyffredinol y sefydliad.

"Rodd y cwestiynau a godwyd gan y myfyrwyr yn procio'r meddwl ac yn peri i mi ailystyried sut rydym yn mynd i'r afael â materion yn y sefydliad. Nid oedd fy mhrofiad gyda'r myfyrwyr yn feichus nac yn dreth – roedd yn bleser cael 'ymgynghorwyr dan hyfforddiant' yn gweithio gyda mi – i roi hwb i'm sefydliad."

Dywedodd Cyfarwyddwr yr MBA, Emmanuel Ogbonna: "Mae ein partneriaeth â PA Consulting Group a'r sefydliadau eraill sy'n cyfranogi yn y prosiect hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn. Bu'n gyfle gwych i'n myfyrwyr ddefnyddio addysg y ddarlithfa ar gyfer materion a phroblemau ymarferol yn ymwneud â rheoli.

"Rydym yn sicr y bydd hyn yn helpu i'w paratoi ar gyfer rhai o'r heriau y byddan nhw'n eu hwynebu yn eu gyrfaoedd."

Rhannu’r stori hon