Ewch i’r prif gynnwys

Literary Success

16 Gorffennaf 2012

Dr Richard Gwyn

Mae hunangofiant a ysgrifennwyd gan un o academyddion Prifysgol Caerdydd wedi ennill y wobr ffeithiol greadigol yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni.

Enillodd The Vagabond's Breakfast, a ysgrifennwyd gan Dr Richard Gwyn o'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, y wobr mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Yn The Vagabond's Breakfast, a gyhoeddwyd y llynedd, mae Gwyn yn ystyried rhai o'r dewisiadau a wnaed a'r teithiau a gyflawnwyd trwy gydol ei fywyd, gan ganolbwyntio'n benodol ar ei flynyddoedd "coll" o grwydreiaeth ac alcoholiaeth yn ardal Môr y Canoldir.

Wrth siarad am ei lwyddiant, dywedodd Dr Gwyn: "Roedd yn faes cystadleuol iawn gydag enghreifftiau o waith ysgrifenedig gwych – rhai ohonynt gan ffrindiau agos i mi – felly, roedd y noson yn brofiad ychydig yn rhyfedd.

"Mae The Vagabond's Breakfast yn ymwneud cymaint â llenyddiaeth, a'r ffordd y mae'n ffurfio ein bywydau, ag y mae'n ymwneud â fy stori fy hun, felly rwy'n falch ei fod wedi derbyn y wobr ar sail lenyddol yn unig."

Mae gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn cael eu dyfarnu'n flynyddol i'r gwaith gorau yn y Gymraeg a'r Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.

Y beirniaid iaith Saesneg ar gyfer 2012 oedd Dr Spencer Jordan, Dr Sam Adams a Trezza Azzopardi. Wrth siarad am yr enillwyr, dywedodd Dr Jordan: "Mae pob un o enillwyr y tri chategori yn awduron blaenllaw."

"Mae ysgrifennu ar ei dewraf a'i mwyaf cymhellol pan mae'n dod o'r galon, a dyna beth mae'r llyfrau hyn yn ei wneud. Yn eu ffordd fach eu hunain, mae pob un yn faniffesto o'r enaid dynol yn yr 21ain ganrif."

Llenyddiaeth Cymru sy'n gweinyddu Gwobrau Llyfr y Flwyddyn. Roedd enillwyr eraill gwobrau eleni'n cynnwys Patrick McGuinness ar gyfer ei nofel gyntaf, The Last Hundred Days, a chyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis.

Rhannu’r stori hon