Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydedd am astudio’r gwyddonwyr

31 Gorffennaf 2012

British Academy

Mae'r Athro Harry Collins wedi cael ei wneud yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig am ei ran yn sefydlu astudio cymdeithasegol ar wyddoniaeth.

Mae'r Athro Collins yn Athro Ymchwil Enwog mewn Cymdeithaseg ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Gwybodaeth, Arbenigedd a Gwyddoniaeth. Mae Cymrodyr yr Academi Brydeinig yn academyddion enwog dros ben, yn cael eu cydnabod am ymchwil eithriadol yn y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau.

Mae gwaith ymchwil yr Athro Collins yn dadansoddi natur gwyddoniaeth a gwybodaeth yn gyffredinol. Mae wedi gweithio gyda llawer o wyddonwyr rhyngwladol, ffisegwyr yn neilltuol, i ennill dealltwriaeth well o sut maent yn ceisio gwybodaeth. Mae'r 16 llyfr sydd ganddo yn cynnwys astudiaethau ar natur Deallusrwydd Artiffisial a'r chwilio gwyddonol am donnau disgyrchol – digwyddiadau cosmig hynod o wan a ragfynegwyd gan ddamcaniaeth Einstein. Mae hefyd wrthi'n cynllunio llyfr newydd ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth a pholisi gwyddonol.

Ac yntau â diddordeb brwd mewn chwaraeon, mae'r Athro Collins hefyd wedi cyhoeddi dadansoddiad o Hawkeye, y dyfarnwr llinell a choes o flaen wiced a ddefnyddir mewn tennis a chriced. Mae'n cwestiynu sut all y dechnoleg fod mor fanwl gywir ag a haerir – mater y mae'r byd criced bellach wedi rhoi ystyriaeth iddo.

Mae gwaith diweddaraf yr Athro Collins yn cynnwys y Gêm Ddynwared, ffordd o archwilio pa mor bell y mae grwpiau lleiafrifol yn cael eu hintegreiddio i gymdeithas. Mae dyfarnwr o blith grŵp lleiafrifol yn gofyn cyfres o gwestiynau ar-lein i ddau ddieithryn nad yw yn eu gweld. Mae un ohonynt o'r un grŵp, a'r llall o blith y mwyafrif. Mae'r ddau yn ceisio ateb y cwestiynau mewn modd a fydd yn argyhoeddi'r dyfarnwr eu bod yn aelodau o'r grŵp lleiafrifol. Mae'r Athro Collins yn ddiweddar wedi bod yn teithio o gwmpas Ewrop yn rhoi prawf ar y gêm mewn cymdeithasau gwahanol, gyda chymorth grant y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd.

Dywedodd yr Athro Collins hyn am ei Gymrodoriaeth: "Rwyf wrth fy modd yn cael fy ethol. Dim ond 39 Cymrawd newydd y flwyddyn mae'r Academi Brydeinig yn eu penodi i gorff o 900 sydd ar gyfer yr holl ddyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Rwy'n falch hefyd i weld cydnabod cymdeithaseg gwyddoniaeth fel hyn. Dechreuais ymhel ag astudio gwyddonwyr ym 1971. Helpodd y gwaith cynnar a wnes i roi dechreuad i'r pwnc."

Professor Harry Collins
Professor Harry Collins

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Dr David Grant: "Dyma wobr haeddiannol iawn i'r Athro Collins sydd wedi adeiladu corff anhygoel o waith yn ystod ei yrfa. Mae ei waith yn gofyn ambell i gwestiwn dwfn am union natur gwybodaeth wyddonol a'r ffyrdd mae gwyddonwyr yn gwneud eu darganfyddiadau."

Meddai Syr Adam Roberts, Llywydd yr Academi Brydeinig: "Mae gan y Cymrodyr newydd, sy'n dod o 23 o sefydliadau ar draws y DU, arbenigedd eithriadol i gyd.  Bydd eu presenoldeb yn yr academi o gymorth iddi gynnal ei chefnogaeth i waith ymchwil ar draws y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, ac ysgogi diddordeb y cyhoedd yn y disgyblaethau hyn."

Rhannu’r stori hon