Ewch i’r prif gynnwys

Rhodd Bywyd

1 Hydref 2012

Gift of life

Mae darn unigryw o waith celf i anrhydeddu'r rhai hynny sydd wedi rhoi eu cyrff ar gyfer addysg ac ymchwil feddygol wedi'i ddadorchuddio heddiw (dydd Gwener 28 Medi).

Bob blwyddyn, mae rhwng 40 a 50 o bobl yn gadael eu cyrff i Brifysgol Caerdydd at ddiben addysgu'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr. Mae'r gwaith celf coffaol, a grëwyd gan yr artist sy'n enwog yn rhyngwladol, Tom Phillips CBE RA, wedi'i fwriadu i fod yn gofeb barhaus i'r holl bobl sydd wedi penderfynu yn ystod eu bywydau i roi eu cyrff i wyddoniaeth ar ôl iddynt farw.

Bydd y gwaith celf marmor llorweddol, sy'n cynnwys yr arysgrif "Alive we thought beyond our lives to give our bodies as a book for you to read", yn cael ei arddangos yn barhaol yn Labordy Anatomeg yr Ysgol, yr ystafell anatomeg fwyaf yn y DU.

Defnyddir cyrff dynol i addysgu myfyrwyr am strwythur y corff a sut mae'n gweithio, ac i hyfforddi a datblygu sgiliau llawfeddygon a phatholegwyr. Mae'r Awdurdod Meinwe Dynol yn rheoleiddio pob ysgol feddygol sy'n defnyddio cyrff a roddwyd.

Defnyddir Labordy Anatomeg Prifysgol Caerdydd yn rheolaidd gan 800 o israddedigion a 100 o ôl-raddedigion. Mae'r holl fyfyrwyr meddygol a gwyddor biofeddygol blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn, a'r holl fyfyrwyr deintyddol blwyddyn gyntaf yn elwa ar y cyfle breintiedig i astudio anatomeg ddynol trwy ddyraniad. Defnyddir y cyfleusterau hefyd gan fyfyrwyr radiograffeg, ffisiotherapi, podiatreg, celf ac optometreg. Yn ogystal ag astudiaethau israddedig, defnyddir y labordy hefyd ar gyfer sesiynau a chyrsiau hyfforddi meddygol a llawfeddygol, yn ogystal ag ymchwil mewn gwyddorau biofeddygol.

Meddai Bernard Moxham, Athro Anatomeg yn Ysgol Biowyddorau Caerdydd: "Dyma ein cyfle ni i ddiolch i'r rhai hynny yng Nghymru, a'r tu hwnt, sydd wedi gwneud cyfraniad mor sylweddol at addysg a hyfforddiant gweithwyr proffesiynol meddygol a gofal iechyd y dyfodol. Mae'r profiad dysgu gwerthfawr hwn yn deillio'n gyfan gwbl o haelioni rhoddwyr sy'n gadael eu corff i'r Brifysgol a, thrwy wneud hynny, yn cynnig rhodd bywyd a gwybodaeth i genedlaethau'r dyfodol."

Dadorchuddiwyd y gwaith celf coffaol mewn seremoni breifat a fynychwyd gan deuluoedd rhai o'r bobl sydd wedi rhoi eu cyrff i'r Brifysgol, staff, myfyrwyr a chefnogwyr yr Ysgol. Mae llyfr o draethodau, cerddi a lluniau yn cyfleu ymateb myfyrwyr i'w diwrnod cyntaf yn y Labordy Anatomeg wedi'i gyhoeddi hefyd i gyd-fynd â'r digwyddiad.

Meddai crëwr y gwaith celf, Tom Phillips CBE RA, y cafodd cerflun a luniwyd ganddo i anrhydeddu'r Lluoedd Arfog, sef Conflict Memorial, ei osod yn Westminster Abbey yn ddiweddar: "Roedd yn syniad da gan Bernard Moxham, Athro Anatomeg yn yr Ysgol Biowyddorau, i ddathlu trwy gelf y rhodd olaf gan y rhai hynny sy'n rhoi eu gweddillion corfforol i wyddoniaeth. Gobeithiaf fod y gofeb yn anrhydeddu eu haelioni mewn modd sensitif."

Rhoddodd Ymddiriedolaeth Derek Williams gyfraniad hael iawn o £5,000 tuag at gost y gwaith celf.

Rhannu’r stori hon