Ewch i’r prif gynnwys

Athro o Brifysgol Caerdydd yw cadeirydd newydd yr RSPB

9 Hydref 2012

Professor Steve Ormerod
Athro Steve Ormerod

Mae elusen gwarchod byd natur fwyaf Ewrop, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), wedi ethol cadeirydd newydd.

Disgrifir yr Athro Steve Ormerod yn aml fel un o ecolegwyr dŵr croyw mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth ac fe'i hetholwyd i olynu Ian Darling yng nghyfarfod blynyddol cyffredinol yr elusen a bydd yn dechrau ei swydd ar unwaith.

Steve yw Athro Ecoleg Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi cyhoeddi dros 250 o bapurau gwyddonol am ecosystemau dŵr croyw, gan gynnwys adar afonydd fel y trochwr, y siglen lwyd a glas y dorlan. Ef yw cadeirydd Pwyllgor Cynghori'r RSPB yng Nghymru ac mae'n Gyn-lywydd y Sefydliad Rheoli Ecolegol ac Amgylcheddol.

Fel cyn-brif olygydd y Journal of Applied Ecology ac enillydd Gwobr Marsh am Gadwraeth Forol a Dŵr Croyw yn 2011, mae Steve wedi bod yn hyrwyddo bywyd gwyllt yn frwd ers amser maith. Mae'n gyn-aelod o Gymdeithas Fiolegol Dŵr Croyw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Ymddiriedolaeth yr Afonydd yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Mae hefyd wedi bod yn aelod o bwyllgor cynghori gwyddonol Ymddiriedolaeth yr Adar Gwyllt a Gwlypdiroedd yn ogystal â sawl un o bwyllgorau Defra, gan gynnwys panel arbenigol yr Asesiad Cenedlaethol o'r Ecosystem a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Wrth sôn am y dasg o'i flaen, dywedodd yr Athro Ormerod: "Rwyf wedi cael fy ngwahodd i fod yn Gadeirydd yr RSPB ar adeg anodd dros ben: go brin y bu erioed cymaint o angen ar draws y byd i warchod natur er diben ei werth cynhenid yn ogystal â'r manteision dirifedi y mae'n ei roi i'n bywydau. Fodd bynnag, bydd mudiad yr RSPB a'i llu o bartneriaid yn ymateb i'r her hon drwy ailgysylltu pobl â'r byd naturiol drwy ddangos beth ellir ei gyflawni a thrwy gyflwyno'r achos gwleidyddol cryfaf dros gadwraeth. Mae'r ffaith mod i wedi cael fy ngofyn i fod yn Gadeirydd ar adeg mor dyngedfennol yn golygu llawer i mi."

Meddai Mike Clarke, Prif Weithredwr yr RSPB: "Rwyf wrth fy modd bod Steve wedi cytuno i fod yn Gadeirydd ar lefel y DU ar adeg mor gyffrous. Gyda'r RSPB yn parhau i ddatblygu wrth i ni ddechrau ein strategaeth Arbed Natur uchelgeisiol, mae Steve mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain yr her a'n helpu i ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl."

Rhannu’r stori hon