Ewch i’r prif gynnwys

Ar y sgrin

13 Gorffennaf 2012

2012 Graduation

Bydd seremonïau graddio dosbarth 2012 yn cael eu darlledu'n fyw yng nghanol y ddinas a bydd bythau fideo o amgylch y campws yn helpu i gipio awyrgylch y diwrnod. Darganfyddwch sut gallwch ddilyn y seremonïau graddio o'ch cyfrifiadur.

Seremoni Raddio Prifysgol Caerdydd

Cymerwch gipolwg ar ein ffilm Graddio i gael blas o'r wythnos ac i weld beth sydd gan ddosbarth 2012 i edrych ymlaen ato.

Sgrin Fawr y BBC

Bydd seremonïau graddio 2012 yn cael eu darlledu ar Sgrin Fawr y BBC yn ardal Aes y ddinas. Gwyliwch ddarllediad byw o'r seremonïau a dyfarniad Cymrodoriaethau er Anrhydedd.

Gwe-ddarllediadau byw a gwylio eto

Os na allwch fynd i'r Aes, bydd gwe-ddarllediadau o'r seremonïau ar gael ar-lein ac ar gael i'w gwylio eto fan hyn.

Bwth fideo

Bydd gennym fythau fideo yn y Brif Adeilad ac yn Neuadd y Ddinas lle gallwch adael neges i'n graddedigion a lle gall myfyrwyr hel atgofion am fywyd coleg yng Nghaerdydd.

Rhannu’r stori hon