Ewch i’r prif gynnwys

Ffocws newydd ar Tsieina

16 Hydref 2012

Professor David Boucher
Athro David Boucher

Bydd mentrau newydd i helpu adeiladu partneriaethau a chydweithio agosach â Tsieina ledled y Brifysgol yn cael eu datblygu mewn ymateb i gynlluniau am fwy o Ryngwladoli, yn ôl Deon newydd Canolfan Dysgu Gydol Oes y Brifysgol.

Cyhoeddodd yr Athro David Boucher, sy'n olynu'r Cyfarwyddwr Gweithredol Dr Richard Evans fel Cyfarwyddwr a Deon newydd y Ganolfan, y cynlluniau newydd yn yr Ŵyl Tsieineaidd Canol Hydref a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Yn ei sylwadau agoriadol, cyhoeddodd yr Athro Boucher y bydd Sefydliad Confucius, wrth iddo barhau i gynnal ei weithgareddau allanol niferus, yn datblygu mentrau newydd yn 2013 i adeiladu partneriaethau a chydweithio agosach ledled y Brifysgol.

Dywedodd Scott Andrews, sy'n Rheolwr Cyffredinol Sefydliad Confucius Caerdydd: "Unwaith eto roeddem wrth ein bodd i groesawu gwesteion i ddathlu'r ŵyl bwysig hon yn y calendr Tsieineaidd.

"Mae Sefydliad Confucius yn parhau i weithredu fel goleufa i Tsieina ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n ymrwymedig i'w fentrau presennol gyda phartneriaid yn y Brifysgol a'r partneriaid hynny ledled Cymru sydd, gan weithio ar y cyd â ni, wedi datblygu cyfleoedd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o iaith a diwylliant Tsieina ymhellach."

Bu gwesteion yn gwylio perfformiadau traddodiadol gan ddisgyblion a myfyrwyr cyn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol Tsieineaidd a Bo Bing – sef y gêm Cacen Lleuad a chwaraeir adeg yr Ŵyl Canol Hydref.

Cafodd yr ŵyl ei lansio gan Ddirprwy Is-ganghellor Rhyngwladol ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd, yr Athro Hywel Thomas, sydd newydd ddychwelyd ar ôl taith i Tsieina pryd y bu'n ymweld â phrifysgol bartnerol Sefydliad Confucius yn Xiamen.

Manteisiodd ar y cyfle i dynnu sylw at ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i ddatblygu ei dimensiwn rhyngwladol a'r rôl sylweddol y mae Sefydliad Confucius a Tsieina wedi ei chwarae wrth ddatblygu'r strategaeth hon.

Y Cyfarwyddwr Academaidd Tsieineaidd, Dr Xueyi Zhu, ddaeth â'r digwyddiad i ben. Dywedodd Dr Zhu: "Gelwir yr Ŵyl Canol Hydref yn Ŵyl y Lleuad hefyd oherwydd bod y lleuad yn fwyaf llawn, pur a llachar ar y diwrnod Canol Hydref hwn.

"Mae pobl Tsieina bob amser yn cysylltu lleuad lachar a llawn â phethau da, megis aduno, cytgord, cyflawniad, agosatrwydd a chyfanrwydd. Mae'r ŵyl yn un boblogaidd a phwysig iawn ymhlith pobl Tsieina a chafodd yr Ŵyl Canol Hydref ei rhestru'n dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol gan Lywodraeth Tsieina yn 2006."

Rhannu’r stori hon