Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrwyo ymchwil “neilltuol”

24 Hydref 2012

Mae dau o wyddonwyr y Brifysgol yn mynd i America i gasglu gwobr ryngwladol o bwys ar gyfer ymchwil i sgitsoffrenia.

Bydd yr Athro Mike Owen a'r Athro Mick O'Donovan o Canolfan MRC er Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig sydd wedi'i lleoli yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol yn casglu Gwobr Lieber yn Efrog Newydd i gydnabod eu gwaith 'neilltuol' i achosion, atal a thrin yr anhwylder.

Mae Gwobr Lieber er ymchwil i sgitsoffrenia yn cydnabod gwyddonwyr ymchwil sydd wedi gwneud y cyfraniadau mwyaf nodedig i'n dealltwriaeth o sgitsoffrenia.

Professor Mike Owen
Professor Mike Owen

Dywedodd yr Athro Owen: "Mae'n anrhydedd fawr i ni ennill Gwobr Lieber. Mae llwyddiant ein hymchwil ond wedi bod yn bosibl oherwydd tîm arbennig o gydweithwyr a'r ymchwilwyr lu sydd wedi gweithio gyda ni o ddydd i ddydd am fwy nag 20 mlynedd i daclo'r afiechyd ofnadwy hwn.

"Mae datblygu therapïau newydd ar gyfer anhwylderau difrifol fel sgitsoffrenia yn parhau i gael ei rwystro gan ein diffyg dealltwriaeth o fecanweithiau anhwylderau.

"O ystyried y camau ymlaen yn ddiweddar ym maes genomeg a niwro-wyddoniaeth, ni fu gwell adeg i daclo'r anhwylderau hyn. Bydd y wobr hon yn ein helpu ni a'n timau ym Mhrifysgol Caerdydd i gael dealltwriaeth newydd a gweithio i liniaru baich salwch meddwl ar gymdeithas."

Professor Mick O’Donovan
Professor Mick O’Donovan

Ychwanegodd yr Athro O'Donovan: "Wrth wraidd y cynnydd mae ein labordai ni wedi ei wneud mewn datgelu rhai o'r ffactorau achosol clir cyntaf yn yr anhwylder hwn fu parodrwydd ymchwilwyr ledled y byd i rannu data gyda ni i'n helpu i brofi atebion addawol sy'n deillio o'n gwaith mewn astudiaethau enfawr. Mae'r ddau ohonom yn hynod ddiolchgar am hyn.

"Mae'r math hwn o ysbryd cydweithredol wedi trawsffurfio ein gwaith ni ac, ar y cyd â datblygiadau technoleg yn ddiweddar, mae'n datgloi – o'r diwedd – addewid geneteg fel offeryn sy'n gallu taflu goleuni ar darddiadau biolegol sgitsoffrenia ynghyd ag anhwylderau seiciatrig eraill".

Mae'r Athro Owen yn bennaeth y Ganolfan MRC flaenllaw er Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig a'r Sefydliad Ymchwil Niwro-wyddoniaeth ac Iechyd Meddwl. Yr Athro O'Donovan yw Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan MRC.

Mae eu hymchwil wedi helpu i adnabod y genynnau rhagdueddiad cyntaf i gael eu cefnogi'n gadarn ar gyfer sgitsoffrenia ac mae wedi adnabod mecanweithiau tebygol yr afiechyd.

Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae'r Athro Owen a'r Athro O'Donovan yn ymchwilwyr neilltuol sydd wedi gwneud rhai o'r darganfyddiadau pwysicaf ym maes sgitsoffrenia yn y ddau ddegawd diwethaf.

"Mae eu gwaith i helpu adnabod genynnau newydd sy'n effeithio ar y risg o ddatblygu sgitsoffrenia wedi helpu newid y ffordd yr ystyriwn yr afiechyd ac wedi cyflwyno cyfleoedd newydd i'w atal a'i drin yn y dyfodol.

"Mae wedi helpu codi proffil afiechyd sy'n dal i gael ei esgeuluso, er gwaethaf ei gost enfawr i unigolion a chymdeithas, ac mae wedi rhoi Prifysgol Caerdydd yn gadarn ar fap y byd am ei gwaith arloesol i daclo salwch meddwl."

Rhannu’r stori hon