Ewch i’r prif gynnwys

Cymunedau’r dyfodol

13 Gorffennaf 2012

Future Communities
Lockleaze in the future, by student Jifei Feng

Mae myfyrwyr o Gaerdydd wedi helpu trigolion ym Mryste i ragweld a llunio eu dyfodol drwy archwilio ceisiadau cynllunio a chynlluniau datblygu posibl.

Bu 11 o fyfyrwyr ar y cwrs MA Dylunio Trefol – sy'n gwrs arloesol a gaiff ei redeg ar y cyd gan yr Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn y Brifysgol - yn gweithio gyda chymuned Lockleaze ym Mryste i helpu pobl i ddychmygu eu hardal yn y blynyddoedd i ddod.

Mae Lockleaze yn un o 17 o gymunedau yn Lloegr sy'n profi cynllunio cymdogaeth, sy'n nodwedd allweddol o Fesur Lleoliaeth 2011. Mae'r Mesur yn rhoi pwerau i gymunedau lleol benderfynu ar y math o ddatblygiad a allai ymddangos yn eu cymuned.

O dan arweiniad darlithwyr o Gaerdydd, sef Mike Biddulph, Dr Andrea Frank a Marga Munar Bauza, bu'r myfyrwyr yn gweithio gyda grŵp cymunedol Lockleaze Voice a thrigolion eraill i ddatblygu strategaeth ar gyfer y gymdogaeth.

Buon nhw'n nodi safleoedd datblygu allweddol yn yr ardal ac yn ystyried sylwadau a syniadau gan drigolion, a chyflwyno strategaeth i'r grŵp.

Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Mike Biddulph o'r Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol: "Bydd gwaith y myfyrwyr yn helpu trigolion Lockleaze i ddychmygu'r mathau o ddatblygiadau a allai ymddangos yn eu cymdogaeth a rhagweld y mathau o faterion a gofynion a allai fodoli ar gyfer cynlluniau."

Ychwanegodd Dr Andrea Frank, hefyd o'r Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol: "Mae'r prosiect wedi rhoi profiad uniongyrchol i'r myfyrwyr o weithdrefnau a materion yn ymwneud ag adnewyddu cymdogaethau, a'u helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau sy'n gysylltiedig â chyfranogiad cymunedol – sy'n beth mwyfwy pwysig i gynllunwyr proffesiynol."

Roedd y prosiect yn cefnogi dysgu ac yn cynnig gwerth go iawn i gymuned Lockleaze. Mae'r grŵp cymunedol Lockleaze Voice hefyd wedi mynegi ei ddiolch am y cymorth a dderbyniwyd wrth lunio cynllun ar gyfer eu cymuned.

Rhannu’r stori hon