Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Haf yn taro tant â myfyrwyr

13 Gorffennaf 2012

Students
Students build electronic larynxes at the UKESF Summer School

Mae myfyrwyr sy'n astudio mathemateg a gwyddoniaeth Safon Uwch ac Uwch yr Alban wedi dod i Brifysgol Caerdydd i fynychu Ysgol Haf Sefydliad Sgiliau Electronig y DU yr wythnos hon.

Bu myfyrwyr yn cymryd rhan mewn her dylunio ac adeiladu, lle buont yn creu a chytgordio blychau llais electronig o dan warchodaeth David Howard o Castrato a Voice ar BBC 4, aHidden Talent ar Channel 4, sydd hefyd yn athro technoleg cerddoriaeth ym Mhrifysgol Efrog.

Cafodd y cwrs, a gynhaliwyd yn Ysgol Peirianneg Caerdydd, ei lunio i helpu gwrthdroi'r gostyngiad o 35 y cant mewn myfyrwyr gradd mewn peirianneg electronig yn y DU; mae'r gostyngiad hwn yn bygwth dyfodol y diwydiant electroneg yn y DU, sy'n werth £23 biliwn y flwyddyn ac sy'n cyflogi 250,000 o bobl.

Wrth wraidd y cwrs mae sesiynau creadigol, lle mae myfyrwyr yn dylunio ac yn adeiladu eu cynnyrch eu hunain; a darlithoedd a roddir gan ymchwilwyr blaenllaw a pheirianwyr ysbrydoledig yn y DU o gwmnïau dylunio electronig o'r radd flaenaf, gan gynnwys noddwyr y cwrs, sefARM, CSR, Dialog Semiconductor ac Imagination Technologies.

Yn ogystal, bydd y myfyrwyr yn mynychu prynhawn ar ddilyniant gyrfaol, gyda pheirianwyr o'r cwmnïau sy'n noddi; sesiynau blasu gradd a gaiff eu cynnal gan brifysgolion cyswllt Sefydliad Sgiliau Electronig y DU; ac ymweld â Labordy Rutherford Appleton y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC), i weld electroneg uwch yn cael ei defnyddio mewn lleoliad ymchwil gwyddonol.

Dywedodd Dr Derek Boyd, sy'n gyfarwyddwr Sefydliad Sgiliau Electronig y DU a Phrif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Microelectroneg Cenedlaethol: "Mae peirianneg electronig yn un o'r llwybrau gyrfa mwyaf gwerthfawr a diddorol sy'n agored i fyfyrwyr. Cynlluniwyd yr Ysgol Haf i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r diwydiant hwn sy'n economaidd hanfodol, a'r ystod o yrfaoedd proffesiynol sy'n agored i raddedigion."

Dywedodd yr Athro Karen Holford, sy'n Gyfarwyddwr Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: "Fel Prifysgol rydym yn gweithio'n agos gyda chwmnïau electroneg yng Nghymru a'r DU i roi'r cyfleoedd gorau i lwyddo i'n myfyrwyr. Mae'r DU yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl o ran arloesi mewn electroneg ac mae angen i ni barhau i ddenu mwy o'r myfyrwyr mwyaf disglair i astudio peirianneg mewn prifysgolion fel Caerdydd a helpu i'w paratoi ar gyfer gyrfa fywiog ac arloesol."

Dywedodd Bill Parsons, sy'n Is-lywydd Adnoddau Dynol yn ARM: "Mae'r cynnydd mewn ffioedd prifysgolion yn golygu bod myfyrwyr yn meddwl yn ofalus iawn am lwybrau gyrfa a gwerth am arian. Mae peirianwyr, sydd â'r gallu i feddwl o gwmpas problemau, ymysg y rhai y mae'r galw mwyaf amdanynt gan gyflogwyr ac mae'r sector electroneg yn cynnig llawer o gyfleoedd cyffrous a chyflogau da i raddedigion dawnus."

Rhannu’r stori hon