Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Archaeolegol Prydain

11 Gorffennaf 2012

British Archaeological awards
Professor Whittle (second from the right) accepts the award for Best Archaeological Book from UK Tourism and Heritage Minister John Penrose MP (right)

Mae llyfr yn amlinellu techneg dyddio newydd ar gyfer astudio Prydain Neolithig yn fwy cywir wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Archaeoleg Prydain.

Mae Gathering Time gan yr Athro Alasdair Whittle o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd; Frances Healy, sy'n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn yr Ysgol; ac Alex Bayliss o English Heritage, wedi ennill categori Llyfr Archaeolegol Gorau y Gwobrau.

Mae'r llyfr yn cyflwyno canlyniadau rhaglen ddyddio bwysig sy'n ailysgrifennu'r cyfnod Neolithig cynnar ym Mhrydain drwy ddyddio caeadleoedd yn fwy cywir – sef mannau adeiladu, gweithio, ymgynnull, cynnal defodau a dyddodiadau.

Cafodd ei ganmol gan y beirniaid am fod yn "wirioneddol arloesol mewn nifer o ffyrdd" ac am fod yn "hynod ddarllenadwy".

"Mae ein llyfr yn cynrychioli wyth mlynedd o waith caled gan dîm helaeth, y mae llawer yn ddyledus iddynt," dywedodd Alasdair Whittle. "Buom yn cydweithio gyda nifer fawr o gloddwyr a churaduron amgueddfeydd ymroddedig, ac roeddem yn ffodus i gael cymorth ein darlunydd arbenigol, Ian Dennis. Hefyd rydym yn ddiolchgar iawn i'n noddwyr, English Heritage, a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. ByddGathering Time yn helpu dileu 'cyn' o cynhanesyddol."

Roedd Gathering Time yn un o dri enwebiad o Gaerdydd. Cafodd prosiect sy'n torri tir newydd, Dinas Goll y Lleng - Ymchwil Archaeolegol yng Nghaerllion 2006-11, o dan arweiniad Dr Peter Guest o'r Ysgol, a'rDiwrnod Archaeoleg a gyd-drefnwyd gan Matt Law, sy'n fyfyriwr PhD yng Nghaerdydd, eu henwebu hefyd yng nghatgorïau Darganfyddiad Archaeolegol Gorau a Chyflwyniad Gorau o Archaeoleg yn y Cyfryngau yn ôl eu trefn.

Mae Gwobrau Archaeolegol Prydain yn gyfle i arddangos goreuon archaeoleg y DU ac mae'n ddigwyddiad canolog yn y calendr archaeolegol. Fe'u sefydlwyd ym 1976, ac maen nhw'n cynnwys chwe gwobr erbyn hyn, yn cwmpasu pob agwedd ar archaeoleg yn y DU.

Cafodd gwobrau 2012 eu cyflwyno i'r enillwyr gan Weinidog Twristiaeth a Threftadaeth y DU, John Penrose AS, a chyflwynydd y seremoni oedd Loyd Grossman, Cadeirydd y Gynghrair Treftadaeth.

Dywedodd Dr Mike Heyworth MBE, Cadeirydd Gwobrau Archaeolegol Prydain: "Dylid llongyfarch yr holl enillwyr a'r enwebiadau a gafodd ganmoliaeth uchel. Fel unigolion ac ar y cyd, maen nhw'n dangos natur amrywiol a llewyrchus archaeoleg ledled y DU. Mae'n ddisgyblaeth sydd nid yn unig yn datblygu ein dealltwriaeth o ddynoliaeth, ond hefyd yn ymgysylltu pawb ac mae ganddi'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol i'n lles a'n hymdeimlad o gymuned."

Rhannu’r stori hon