Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltu â’n gilydd

6 Tachwedd 2012

Hugh Jones
Hugh Jones

"Allwn ni ddim gwadu bod technoleg ddigidol a chymdeithasol yn newid y ffordd y mae'r byd yn cyfathrebu.

Mae'r cyfleoedd y mae'r dechnoleg yn eu cynnig o ran sut rydyn ni'n ymgysylltu ag eraill yn anhygoel o amrywiol. Rwy'n gyffrous iawn ein bod ni yma yn y Brifysgol yn gweld sut gallwn ni ddefnyddio'r dull hwn yn fewnol wrth lansio Cysylltiadau/Connections.

Dull ar-lein sydd ar gael i bob aelod o staff yw Cysylltiadau, sy'n eich galluogi i gyfathrebu a chydweithio â phobl ar draws y sefydliad. Onid yw e-bost yn gwneud hynny'n barod, rwy'n eich clywed chi'n holi? Dydw i ddim yn siŵr ei fod e: dydy e-bost ddim yn arbennig o gymdeithasol, dydy e ddim yn rhoi cyfle i chi ddysgu gan bobl na wyddoch chi efallai am eu bodolaeth a does dim modd trafod yn agored a thryloyw arno. Ac mae'n hawdd i e-bost feddiannu eich diwrnod, yn hytrach na'ch bod chi'n dewis pryd i ymwneud ag e: mae'n was rhy bwerus.

Mae sawl elfen wahanol i Cysylltiadau. Gallwch daflu syniadau a chasglu adborth arnyn nhw drwy'r fforymau, cadw mewn cysylltiad a rhannu gwybodaeth â phobl o'r un meddylfryd â chi mewn cymunedau ar-lein a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl eraill am yr hyn rydych chi'n gweithio arno drwy flog.

Wrth ddiweddaru eich proffil personol bydd eraill yn gallu cysylltu â chi ac mae'n ffordd wych o ddod o hyd i bobl sydd ag arbenigedd a phrofiad penodol ledled y Brifysgol. Nodwedd wych arall yw eich bod yn gallu rhannu ffeiliau gydag eraill, fel y gallwch weithio ar yr un ddogfen a chael gwared ar y profiad a all fod yn boenus o gael atodiadau e-bost mawr.

Rwyf wedi bod yn defnyddio Cysylltiadau ers i mi gyrraedd Caerdydd, gan ysgrifennu blog rheolaidd a hefyd rwy'n ei ddefnyddio i gysylltu ag eraill. I mi, mae ysgrifennu'r blog yn ffordd wych o roi gwybod am yr hyn rwy'n gweithio arno, trafod materion ar draws y sector ac weithiau lladd ambell stori! Mae'n bwysig i mi fy mod i'n gallu ymgysylltu â phobl ledled y Brifysgol fel hyn: does dim digon o oriau yn y dydd i mi gwrdd â phob un o'm 6,000 cydweithiwr a siarad â nhw. Peth arall gwych am Cysylltiadau yw ei fod yn gadael i eraill wneud sylwadau am yr hyn rwy'n ysgrifennu amdano, am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd a holi cwestiynau. Fel hyn gallaf ddod i wybod yn union beth yw barn pobl, sy'n bwysig dros ben.

Felly beth mae Cysylltiadau yn ei olygu i chi a'ch ffordd o weithio? Wel, nid bwriad Cysylltiadau yw cyflwyno darn arall eto o dechnoleg i'n bywydau gwaith, neu geisio gorfodi newidiadau yn y ffordd rydym yn gwneud pethau. Ei fwriad yw cynnig cyfle i gyfathrebu a gweithio'n agored, yn gydweithredol ac yn fwy effeithlon. Ei fwriad yw hwyluso sgyrsiau a rhannu syniadau ar draws y sefydliad. Boed hynny'n digwydd ar brosiect ymchwil, menter addysgu newydd neu wrth ddod â phobl o'r un meddylfryd at ei gilydd, mae Cysylltiadau yn torri drwy elfennau gwahanol y sefydliad.

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr ar y cyfryngau cymdeithasol i elwa o hyn. Dydw i erioed wedi bod ar y gweplyfr (dydw i ddim hyd yn oed wedi fy argyhoeddi bod 'to facebook' yn ferf go iawn yn Saesneg); dydw i ddim yn un o'r Trydarwyr. Ond mae'n ffordd o gyfathrebu gyda dilysrwydd (gobeithio) o fewn y Brifysgol.

Mae Cysylltiadau eisoes yn cael ei ddefnyddio gan bobl a grwpiau ledled y Brifysgol mewn sawl ffordd wahanol. Mae staff yn yr Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd yn ei ddefnyddio i wella cyfathrebu mewnol. Maen nhw'n ei ddefnyddio fel man canolog i roi gwybodaeth allweddol i bob aelod o staff yn ogystal â defnyddio fforymau trafod i rannu'r arferion gorau a hyrwyddo trafodaethau tryloyw sy'n ymwneud â materion yr Ysgol.

Mae prosiectau mawr ledled y Brifysgol fel Prosiect Gweddnewid y We (Web Transformation Prosiect) yn defnyddio Cysylltiadau i rannau a thrafod cynnydd, materion a syniadau sy'n ymwneud â phrosiectau ac mae'r Lean team yn ei ddefnyddio fel man i holi cwestiynau, dod o hyd i wybodaeth a chynnig cyngor.

Mae'r cynlluniau i'r dyfodol yn cynnwys defnyddio Cysylltiadau i gyfathrebu gwybodaeth a gofyn am adborth ar y manteision i staff yn ogystal ag edrych ar ffyrdd y gall hwyluso gwaith trawsddisgyblaethol yn yr Ysgolion a'r Colegau.

Yn wir, mae Cysylltiadau yn agor nifer mawr o gyfleoedd a gobeithio y bydd cynifer ohonoch ag sy'n bosib yn cymryd munud i fewngofnodi a gweld sut gall ychwanegu gwerth at eich gwaith a hefyd at y ffordd rydych chi'n cyfathrebu â chydweithwyr. Rhowch wybod i mi beth yw eich barn drwy fy mlog!"

Mewngofnodwch i Connections yn:
https://connections.cf.ac.uk/

Rhannu’r stori hon