Ewch i’r prif gynnwys

Helo a Hwyl Fawr

6 Tachwedd 2012

Richard Sambrook
Richard Sambrook

Helo i ... Richard Sambrook, cyn-Gyfarwyddwr Newyddion Byd-Eang gyda'r BBC a ymunodd yn ddiweddar â'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth ac yn Athro Newyddiaduraeth.

Ble byddwch chi'n gweithio yn y Brifysgol?

Rwy'n gweithio yn JOMEC - Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.

Beth fyddwch chi'n ei wneud yn eich swydd newydd?

Rwy'n Ddirprwy Bennaeth yr Ysgol ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth sy'n rhedeg y cyrsiau hyfforddi ôl-raddedig galwedigaethol mewn newyddiaduraeth - tua 200 myfyriwr y flwyddyn. Rwyf hefyd yn cefnogi peth o'r ymchwil ar sail ymarfer y mae'r Ysgol yn ei gwneud.

Ble roeddech chi cyn ymuno â Chaerdydd?

Bûm yn Newyddion y BBC am ddeng mlynedd ar hugain fel cynhyrchydd, golygydd a rheolwr. Treuliais ddeng mlynedd ar Fwrdd y BBC yn Gyfarwyddwr Chwaraeon, Cyfarwyddwr Newyddion ac yn olaf yn Gyfarwyddwr Newyddion Byd-Eang a'r 'World Service'. Yn ogystal treuliais ddwy flynedd yn Ddirprwy Gadeirydd Byd-eang Edelman, ymgynghoriaeth ryngwladol Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu. Ond dechreuais weithio fel newyddiadurwr ar bapurau newydd lleol yng Nghaerdydd a'r Cymoedd - felly rwyf wedi cwblhau'r cylch!

Beth yw'r peth gorau am eich swydd?

Gweithio gyda charfan o fyfyrwyr sydd mor ddeallus, egnïol a heriol a pharatoi at eu gollwng yn rhydd yn y byd.

Pe na baech chi yn eich swydd bresennol, beth fyddech chi'n ei wneud?

Gobeithio, gweithio fel newyddiadurwr llawrydd a gwneuthurwr rhaglenni.

Ble mae eich hoff le ar y campws?

Gaf i ddweud yr Amgueddfa Genedlaethol? Os na chaf i, Parc Cathays fyddai'r lle.

Beth yw eich hoff raglen deledu?

The West Wing – am yr atebion parod.

Ble rydyn ni fwyaf tebygol o gael gafael arnoch chi'r tu allan i'r gwaith?

Yn cerdded yn y Mynyddoedd Duon neu Ddyffryn Afon Wysg.

Louise Casella
Louise Casella

Hwyl Fawr i...Louise Casella, Cyfarwyddwr Datblygiad Strategol sy'n gadael y Brifysgol ar ôl 25 mlynedd...

"Dwi wir wedi mwynhau gweithio i'r Brifysgol dros y 25 mlynedd diwethaf a dwi wedi gwerthfawrogi'r holl gyfleoedd a'r heriau a daflodd ataf.

"Mae'r Brifysgol wedi'i gweddnewid ers i mi ymuno ym 1988 - ar yr adeg honno roedden ni'n dod allan o'r argyfwng a arweiniodd at uno Coleg Prifysgol Caerdydd a UWIST ac roedd pob math o gamau a newidiadau newydd yn cael eu rhoi yn eu lle. Dysgais lawer iawn gan gydweithwyr parod ac roeddwn yn ffodus i gael mentoriaid a rheolwyr gwych a roddodd fedydd tân i mi a gadael i mi fwrw ymlaen. Dros y blynyddoedd rwyf wedi cynllunio a rheoli'r hyn a gyflwynwyd i'r Ymarferion Asesu Ymchwil, datblygu a mireinio methodoleg neilltuo adnoddau, ymgeisio am bwerau rhoi graddau a theitl prifysgol Caerdydd a'u sicrhau, rheoli prosiect uno a chreu Ysgolion ac adrannau a bûm yn ymwneud yn ganolog â gyrru'r Uno â UWCM yn 2004.

"Dros yr 8 mlynedd diwethaf mae hi wedi bod yn bleser enfawr i mi arwain a rheoli'r Gyfarwyddiaeth Datblygu Strategol. Mae fy nghydweithwyr ar draws adrannau STRAT yn gweithio'n galed iawn i gefnogi ein hymdrechion academaidd ac rydym wedi cael llawer o hwyl yn meithrin y cysylltiadau a'r cydweithio sy'n nodweddu ein gwaith i'r Brifysgol. Wrth gefnogi sefydlu Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol, wrth gyflwyno ymgyrch farchnata israddedigion THRIVE, neu hyrwyddo digwyddiadau blynyddol fel y Graddio a Varsity – mae hi wedi bod yn wych cael bod yn rhan o dimau o gydweithwyr o dros y Gyfarwyddiaeth i gyd.

"Rwyf wedi bod yn ffodus o gael hwyl enfawr wrth wneud fy ngwaith hefyd – a gweld rhai mannau gwych. Drwy gynrychioli'r Brifysgol dramor bûm yn ddigon ffodus i gerdded ar Wal Fawr China, ymweld â Rhaeadr Niagra; gweld Goleuni'r Gogledd pan oeddwn y tu mewn i gylch yr Arctig yn Swaden; mynd i Adeilad Chrysler yn Efrog Newydd; a mynd i Adain Orllewinol y Tŷ Gwyn hefyd. Cyffrous iawn i rywun na fuodd erioed yn teithio cyn neu ar ôl y Brifysgol ac sy'n dal i fyw ddwy filltir yn unig oddi wrth ei mam a'r tŷ lle'm ganed!

"Yn fwy na dim, serch hynny, yr hyn rwyf wedi'i fwynhau fwyaf am fy ngwaith yng Nghaerdydd fu'r dysgu a'r datblygiad y bûm yn rhan ohono – mae ehangder yr hyn sy'n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn syfrdanol, mae'r ymdeimlad o ddarganfod a chyffro'n frawychus, ac mae'n rhaid parchu a chefnogi'r cydweithwyr sy'n rhannu hyn i gyd gyda ni. Rwy'n siŵr fod pethau mawr eto i ddod ac rwy'n hynod o falch o fod wedi bod yn rhan o lwyddiant y chwarter canrif diwethaf."

Rhannu’r stori hon