Ewch i’r prif gynnwys

Siarter y Myfyrwyr

13 Awst 2012

Professor Stephen Denyer
Professor Stephen Denyer, Chair of the Student Charter Development Group

Yr Athro Stephen Denyer, Cadeirydd Grŵp Datblygu Siarter y Myfyrwyr, yn rhoi cipolwg i'n Siarter Myfyrwyr newydd a'r hyn mae'n ei olygu i Brifysgol Caerdydd a'i myfyrwyr.

Yng nghyfarfod cyntaf Grŵp Datblygu Siarter y Myfyrwyr ym mis Awst 2011, lle cefais wahoddiad i fod yn Gadeirydd, ni allwn beidio â holi, "Beth yn union yw diben Siarter y Myfyrwyr?"

Cefndir hyn oedd bod Grŵp Siarter Myfyrwyr Cenedlaethol, a gomisiynwyd gan y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, wedi cadarnhau Siarterau Myfyrwyr ac wedi cynghori y dylai pob Sefydliad Addysg Uwch gyhoeddi dogfen o'r fath. Yn dilyn hyn, dywedodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ei bod yn ofynnol i bob Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru gyflwyno Siarter y Myfyrwyr.

Daeth i'r amlwg yn fuan fod Siarter y Myfyrwyr yn golygu mwy i Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr na dim ond cyfle i fodloni gofynion allanol. Drwy ddatblygu'r Siarter rydym wedi cael y cyfle prin i gymryd cam yn ôl o ymdrechion parhaus y Brifysgol i ddatblygu ein profiad i fyfyrwyr a myfyrio ar yr hyn rydym eisoes yn ei wneud ar gyfer profiad ein myfyrwyr.

Un o ddibenion allweddol Siarter y Myfyrwyr yw amlinellu'n glir yr hyn y gall ein myfyrwyr ei ddisgwyl gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, a'r hyn y mae'r Brifysgol yn ei ddisgwyl gan ei myfyrwyr. Bu angen i ni sicrhau bod ei gynnwys yn seiliedig ar ddulliau cyflenwi a phrofiadau'r presennol, ac nid y rhai rydym yn anelu atynt.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, paratowyd y Siarter mewn partneriaeth agos rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Rydym wedi ymgynghori'n helaeth â myfyrwyr a staff a chymeradwywyd y ddogfen derfynol yn ddiweddar gan Gyngor y Myfyrwyr a Senedd a Chyngor y Brifysgol.

Mae'r Siarter yn cynnwys wyth cymuned, gyda phob un yn adlewyrchu nodweddion profiad y myfyriwr yn y Brifysgol, ac mae'n darparu gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol. Gall y myfyrwyr a'r staff archwilio'r cymunedau hyn ar dudalennau gwe Siarter Myfyrwyr Caerdydd, sydd hefyd yn arwain at wybodaeth ymarferol a pherthnasol arall ar eingwefan.

Wrth drafod Siarter y Myfyrwyr gyda'n myfyrwyr, weithiau gofynnir i mi, 'Beth fydd yn digwydd os fydd rhywbeth yn ateb fy nisgwyliadau?' Fy nghyngor i bawb yw y dylent roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Mae ein tudalennau Siarter y Myfyrwyr ar y we yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ynghylch lle i fynd os na fydd agwedd ar eu profiad yn ateb eudisgwyliadau.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o ddatblygu ein Siarter Myfyrwyr, a phopeth mae'n ei gynrychioli. Rwy'n teimlo'n hyderus y gallaf ateb fy nghwestiwn cychwynnol nawr: mae Siarter y Myfyrwyr yn helpu i ddiffinio cymuned   a'r berthynas sydd ganddi â'i myfyrwyr; mae'n gosod y ffordd i bopeth sy'n allweddol am brofiad Caerdydd, er mwyn i'n holl fyfyrwyr fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gynigiwn iddynt.

Mae Siarter y Myfyrwyr yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei datblygu bob blwyddyn wrth i'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr barhau i wella'r profiad ysbrydoledig a chyfoethog a ddarparwn i'n myfyrwyr.

Os hoffech roi adborth ar ein Siarter y Myfyrwyr, ewch i'r wefan yn:www.caerdydd.ac.uk/for/current/student-charter/feedback/

Rhannu’r stori hon