Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i iechyd yn ne-ddwyrain Cymru Partneriaeth yn uno prifysgolion a’r GIG

16 Tachwedd 2012

Professor Susan Denman
Professor Susan Denman

Mae partneriaeth unigryw yn dod â 10 prifysgol a sefydliadau'r GIG at ei gilydd yn ne-ddwyrain Cymru i gryfhau effaith ymchwil iechyd a gwella iechyd a lles ledled y rhanbarth.

Nod Partneriaeth Gwyddor Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru (SEWAHSP) yw lleihau ymchwil a datblygu tameidiog, a chyflymu gwella iechyd yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.

"Byddwn yn gweithio'n agos ag arianwyr diwydiant ac ymchwil, ac yn dod ag ymchwilwyr, rheolwyr, ymarferwyr, grwpiau cleifion, cynllunwyr a llunwyr polisïau at ei gilydd i helpu sicrhau bod ymchwil wir yn cyflawni," meddai cyfarwyddwr dros dro'r bartneriaeth, yr Athro Susan Denman, sydd wedi'i lleoli yng nghanolfan SEWAHSP ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae peth gwaith ymchwil ac addysg iechyd eithriadol yn ne-ddwyrain Cymru, ond cyflawnir llawer ohono ar wahân," meddai. "Rydym eisiau ei gwneud hi llawer yn haws i ymchwilwyr gydweithio – bydd hyn yn golygu ein bod ni gyd yn gweithio'n fwy effeithlon ac effeithiol, ac yn cyflawni canlyniadau sydd wir yn gwella iechyd yn y rhanbarth."

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys ardal o ffin Lloegr i Fro Morgannwg yn y de a'r gorllewin, a Merthyr Tudful yn y gogledd.

"Mae'n rhanbarth sy'n cynnwys oddeutu 1.5 miliwn o bobl – sef hanner poblogaeth Cymru – ac mae'n amrywiol iawn yn gymdeithasol, gydag amrywiaeth o heriau iechyd, yn enwedig o ran anghydraddoldebau iechyd," meddai'r Athro Denman.

Mae gan y bartneriaeth gyfres o themâu blaenoriaeth:

  • Canser
  • Clefydau cardio-anadlol a diabetes
  • Geneteg a genomeg
  • Ymchwil i wasanaethau iechyd a'u cyflawni
  • Heintiau, llid ac imiwnedd
  • Niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl
  • Meddyginiaeth atgynhyrchiol a gofal iechyd
  • Addysg gofal iechyd ac ymchwil addysg gofal iechyd.

"Mae gan dde-ddwyrain Cymru enw da iawn o ran ymchwil flaenllaw ym meysydd meddygol penodol, a thraddodiad hir o ragoriaeth mewn ymchwil gymunedol sy'n seiliedig ar iechyd," meddai'r Athro Denman.

"Dymunwn adeiladu ar y rhain, a chryfderau eraill, i hyrwyddo de-ddwyrain Cymru a'i chofnod o ragoriaeth ymchwil i annog mwy o fewnfuddsoddi a helpu i recriwtio a chadw'r gweithwyr proffesiynol gorau oll."

Y sefydliadau sy'n aelodau o'r bartneriaeth yw:

Prifysgol Caerdydd; Prifysgol Fetropolitan Caerdydd; Prifysgol Morgannwg; Prifysgol Cymru, Casnewydd;

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; Bwrdd Iechyd Cwm Taf; Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru; Ymddiriedolaeth GIG Felindre; Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Bydd y bartneriaeth hefyd yn archwilio cyfleoedd i gydweithredu mewn rhannau eraill o Gymru a de-orllewin Lloegr.

SEWAHSP

The partnership's member organisations are:

Cardiff University; Cardiff Metropolitan University; University of Glamorgan; University of Wales, Newport;

Aneurin Bevan Health Board; Cardiff and the Vale University Health Board; Cwm Taf Health Board; Public Health Wales NHS Trust; Velindre NHS Trust; Wales Ambulance Service Trust.

The Partnership will also explore opportunities for collaboration in other parts of Wales and in South West England.