Manon Edwards Ahir yn ymuno â'r Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol
25 Ionawr 2017
Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol wedi penodi Darlithydd Cyfrwng Gymraeg drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae Manon Edwards Ahir yn ymuno â'r Ysgol fel darlithydd ac mae ganddi brofiad fel newyddiadurwraig, cynhyrchydd teledu a chyfarwyddwr asiantaeth cyfathrebu.
Treuliodd Manon 17 mlynedd gyda'r BBC mewn adrannau newyddion yng Nghymru a Llundain gan arbenigo mewn materion tramor, casglu newyddion a gwleidyddiaeth. Ar ôl gadael y BBC sefydlodd asiantaeth cyfathrebu dwyieithog, Mela. Bu’n cyd-weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau a chwmnïau ar hyd a lled y wlad gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Llywodraeth Cymru, Boom Cymru a Llenyddiaeth Cymru.
Bydd Manon yn ymuno â'r newyddiadurwraig Sian Morgan Lloyd i ddatblygu'r darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol. Erbyn hyn mae'r Ysgol yn cynnig nifer o fodiwlau yn y Gymraeg ac mae gan fyfyrwyr y cyfle i astudio gradd gydanrhydedd Cymraeg ac Newyddiaduraeth.
Dywedodd Sian Morgan Lloyd, Cyfarwyddwr y ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, 'Mae poblogrwydd y ddarpariaeth yn mynd o nerth i nerth ac rwy'n ffyddiog y bydd Manon yn cyfrannu'n helaeth i'n rhaglen addysgu sydd yn tyfu ac yn datblygu yn arbennig o dda. Mi fydd profiad Manon o'r byd cyfathrebu yn gaffaeliad mawr i'r adran.'
Wrth gamu i’r byd academaidd, dywedodd Manon: "Yn ystod fy ngyrfa rydw i wedi gweithio tu mewn a thu allan i'r byd newyddiadurol a'r cyfryngau - sefyllfa sydd wedi rhoi persbectif gwahanol a dealltwriaeth arbennig i mi. Mae'n gyfnod hynod o gyffrous i astudio'r byd hwnnw am ein bod mewn cyfnod o chwyldro o ran cyfathrebu gwybodaeth a newyddion. Rwy'n edrych ymlaen yn arw i gyfleu'r cyffro hwnnw ac i'w roi dan y chwyddwydr gyda myfyrwyr ifanc Cymraeg eu hiaith sy'n chwilfrydig am y maes.
"Fel cyn cyflogwr hefyd, rwy'n ymwybodol o'r angen mawr yng Nghymru am raddedigion sydd â’r sgiliau newyddiadurol angenrheidiol i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n gobeithio y gallaf gyfrannu at y ddarpariaeth sy'n cynnig cyfleoedd gwych i gyflawni’r nod hynny."
Gallwch weld mwy o wybodaeth am y ddarpariaeth drwy ddilyn @Jomeccymraeg ar Twitter.