Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn amlygu cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr agored i niwed

19 Ionawr 2017

Widening Participation

Mae Aelodau Cynulliad a chynrychiolwyr elusennau a rhwydweithiau cefnogi wedi clywed yn uniongyrchol sut mae cefnogaeth y Brifysgol ar gyfer grwpiau agored i niwed yn cryfhau ei hymrwymiad i ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch.

Mewn digwyddiad rhannu gwybodaeth ym Mae Caerdydd, daeth pobl sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni a gofalwyr ifanc, ynghyd i glywed rhagor am ba mor eang yw cefnogaeth y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr agored i niwed. Mae hefyd yn cynnig cefnogaeth i geiswyr lloches a chyn-filwyr sydd am ddychwelyd i fyd gwaith neu astudio.

Gan gydnabod y gall myfyrwyr o grwpiau sy'n agored i niwed wynebu sawl rhwyst sy'n eu hatal rhag llwyddo ym maes addysg uwch, mae'r Brifysgol wedi creu rhaglen gefnogi ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n wynebu heriau penodol yn ystod eu hamser mewn addysg uwch.

Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cynghori ac arwain ynghylch sut i oresgyn caledi ariannol, ymdopi â thrawma neu brofiadau sy'n newid bywyd, a rheoli gofynion addysg amser llawn ochr yn ochr â chyfrifoldebau ychwanegol.

Cyn y digwyddiad, dywedodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd: "Rwy'n hynod o falch o sut mae'r Brifysgol wedi cynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau i fyfyrwyr beth bynnag fo'u cefndir. Ni waeth beth fo'u hamgylchiadau personol, rydym am i'n holl fyfyrwyr adael y Brifysgol yn raddedigion hyderus ac uchelgeisiol sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn y byd ehangach. Drwy gydweithio ac ymestyn i'r gymuned ehangach, gallwn wneud yn siŵr ein bod yn cynnig y gefnogaeth orau bosibl i'r rhai sydd ei hangen fwyaf."

Mae Prifysgol Caerdydd yn hen law ar helpu myfyrwyr i oresgyn rhwystrau i addysg uwch. Drwy weithio gyda thros 100 o ysgolion a cholegau mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru, mae'r Brifysgol yn helpu pobl ifanc sy'n llai tebygol o fynd i Brifysgol i ennill yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Mae hyn ochr yn ochr â'r gefnogaeth ystyrlon a roddir i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael profiad addysg sydd yr un mor gyfoethog a gwerth chweil â phawb arall.

Noddwyd y digwyddiad gan Aelod Cynulliad Caerffili, Hefin David.

Rhagor o wybodaeth am gefnogaeth y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr o grwpiau agored i niwed.

Rhannu’r stori hon