Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb yn y gweithle

20 Ionawr 2012

Equality

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei rhestru yn safle 49 ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2012 i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb ar gyfer gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol y mae'r Brifysgol wedi cael ei rhestru yn y 100 gorau, ac mae'n dathlu cynnydd o fwy na 30 safle dros y 12 mis diwethaf.

Hefyd, mae Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Staff ac Amrywiaeth Caerdydd, yr Athro Terry Threadgold, wedi cael ei henwi yn 'Hyrwyddwr yn y Gweithle yng Nghymru y Flwyddyn' ar gyfer ei gwaith ar faterion cydraddoldeb pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LGB).

Mae'r dyfarniad yn cydnabod uwch arweinwyr sydd wedi cael effaith drawsffurfiol ar ddiwylliant eu sefydliad a phrofiad y staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn y gweithle.

Dywedodd Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White: "Mae'n eglur o'r adborth rydym wedi'i dderbyn gan staff Prifysgol Caerdydd bod yr Athro Threadgold a'i thîm wedi bod yn ffactor enfawr yn llwyddiant y sefydliad ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle eleni."

Mae'r Mynegai yn meincnodi'r cynnydd a wneir gan sefydliadau yn y DU ar gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn y gweithle ac mae'n parhau i fod yn offeryn pwerus a ddefnyddir gan 1.7 miliwn o weithwyr hoyw a 150,000 o fyfyrwyr hoyw Prydain wrth benderfynu ble i fynd â'u dawn a'u sgiliau.

Mae urddas, cwrteisi a pharch yn dri o werthoedd craidd Prifysgol Caerdydd, ac mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn thema allweddol ym menter Amgylchedd Gwaith Cadarnhaol y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Threadgold: "Rwy'n falch bod ein harfer cyflogaeth da wedi cael ei gydnabod eto ac rwy'n hapus iawn fy mod wedi cael fy anrhydeddu'n bersonol gan Stonewall Cymru yn y modd hwn. Mae safle Caerdydd ar y rhestr yn arddangos ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb a sicrhau gweithle cynhwysol, croesawgar a chynhyrchiol."

Dywedodd Karen Cooke, Cadeirydd y rhwydwaith staff Enfys: "Mae ein cyflawniad ym Mynegai eleni yn foddhaol iawn ac yn cynrychioli gwaith caled nifer o bobl i godi proffil cydraddoldeb i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol.

"Rwyf yr un mor falch bod Terry wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad enfawr i'r rhwydwaith a staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn gyffredinol. Bydd nifer o staff yn anymwybodol o'i chyfraniad sylweddol, ond mae'n deg dweud na fyddem wedi cyflawni'r hyn rydym wedi'i gyflawni heb ei chymorth a phroffesiynoldeb. Mae cael uwch staff yn gysylltiedig ac ymrwymedig â'r agenda pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn hanfodol."

Roedd Caerdydd yn un o chwe phrifysgol y DU i ymddangos yn y Mynegai, ac yn un o dair yn unig i ymddangos yn y 50 gorau. Y Brifysgol oedd y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i ymuno â 'Hyrwyddwyr Amrywiaeth' Stonewall ac mae'n cyflwyno cofnod ar gyfer Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn flynyddol.

Rhannu’r stori hon