Ewch i’r prif gynnwys

Cadeirydd y Cyngor

11 Ionawr 2012

John Jeans CBE
John Jeans CBE CEng Bsc MIChemE

Cafodd cyn gadeirydd GE Healthcare Cyf ac arweinydd gweithredol uwch cyllidwr ymchwil meddygol mwyaf y DU, sef Mr John Jeans, ei benodi'n Gadeirydd ar Gyngor y Brifysgol.

Mae Mr Jeans yn ymuno â'r Brifysgol o rôl Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol cyntaf a Phrif Swyddog Gweithredol y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC), ar ôl cael gyrfa hynod o lwyddiannus yn y diwydiannau dyfeisiadau meddygol, fferyllol a diagnostig.

Bydd yn olynu'r imiwnolegydd blaenllaw Syr Keith Peters yn y swydd yng Nghaerdydd o 16 Ionawr 2012. Bydd ei gyfnod yn y swydd yn rhedeg tan 2015.

Mae Mr Jeans wedi ymgymryd â rolau uwch yn Nycomed Amersham International PLC (a aeth yn GE Healthcare yn ddiweddarach) ac wedyn yn GE Healthcare Cyfyngedig lle aeth yn Gadeirydd a Llywydd, Gweithrediadau Masnachol Gwyddorau Bywyd y cwmni. Yn ystod ei gyfnod yn y cwmni roedd yn gyfrifol am yrru mentrau twf trawsfusnes sylweddol yn y DU. Hefyd lansiodd nifer o fentrau busnes newydd, gan gynnwys darparu gwasanaeth delweddu clinigol ar gyfer y diwydiant fferyllol.

Fel arweinydd gweithredol uchaf yr MRC, roedd Mr Jeans yn atebol yn uniongyrchol am bob swyddogaeth gorfforaethol, rheoli rhanbarthol, prosiectau pwysig a rhai rhaglenni mewnfurol penodol. Helpodd i ailstrwythuro rhyngweithiadau'r Cyngor gyda'r diwydiant ac arweiniodd ymglymiad MRC o ran creu Sefydliad Francis Crick, gan gynnwys sicrhau cyllid gan y Llywodraeth.

Gan siarad am benodiad Mr Jeans, dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol, sef Dr David Grant: "Mae Cadeirydd y Cyngor yn rôl bwysig ar gyfer y Brifysgol. Bydd profiad helaeth John a'i sgiliau arwain rhagorol yn ased i Gaerdydd, yn enwedig yn ystod cyfnod heriol o ran datblygu addysg uwch. Hoffwn ddiolch i Syr Keith Peters am y cyfraniad rhagorol mae e wedi'i wneud i'r Brifysgol a'u rôl mewn llawer o'n cyflawniadau allweddol."

Mae Mr Jeans eisoes yn gyfarwydd â'r Brifysgol, yn sgil cadeirio un o bwyllgorau ymgynghorol amlddisgyblaethol Caerdydd. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Gwyddonol Cymru ac yn Gadeirydd Imanova, sef menter ar y cyd rhwng yr MRC, a Cholegau Imperial, Kings a University.

Rhannu’r stori hon