Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad i ystyried dulliau o weithio gyda Phrifysgol Caerdydd

4 Ionawr 2017

innovation lecture

Bydd arbenigwyr yn ymgynnull yng Nghaerdydd y mis hwn i rannu syniadau a chyngor ynglŷn â sut i droi ymchwil o'r radd flaenaf yn brosiectau 'go iawn' sy'n gallu trawsnewid byd busnes a'r gymdeithas.

Bydd panel o arbenigwyr o fyd busnes, y byd academaidd a'r llywodraeth yn esbonio sut y gellir troi syniadau prifysgolion yn gynhyrchion a gwasanaethau sy'n dwyn buddiannau economaidd a chymdeithasol.

Bydd y digwyddiad – a drefnwyd gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd – yn ystyried y gwahanol ffyrdd y mae busnesau a sefydliadau yn gweithio gyda phrifysgolion, ac yn ystyried y ffactorau sy'n gwneud i rai prosiectau lwyddo.

Dywedodd Dr Nick Bourne, Pennaeth Datblygu Masnachol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Ar hyn o bryd, gall y byd academaidd, busnesau, a'r sector cyhoeddus ymgysylltu drwy amrywiaeth o gynlluniau a ariennir, megis Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS2) a rhaglen SMARTExpertise Llywodraeth Cymru. Nod y sesiwn hon yw symleiddio'r cyd-destun, egluro unrhyw jargon, ac ystyried sut gall busnesau a sefydliadau gydweithio'n effeithiol â phrifysgolion."

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • John White, Cyfarwyddwr, Brick Fabrication
  • Katherine Shelton. Uwch Ddarlithydd Seicoleg, Prifysgol Caerdydd,
  • Howard Nicholls, Cynghorydd Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, Innovate UK
  • Phil Allen, Pennaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a Masnacheiddio, Llywodraeth Cymru

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 25 Ionawr, rhwng 18.30 a 20.30, yn Adeilad Bute, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB. Cynhelir sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniadau. Bydd lluniaeth ysgafn a chyfle i rwydweithio ar ôl y sesiwn.

I gadw lle ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus hwn, ewch i'r dudalen Eventbrite hon.

Rhannu’r stori hon