Ewch i’r prif gynnwys

Potential boost for IVF success

3 Ionawr 2012

IVF

Gallai techneg newydd a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus ymhlith llygod i nodi'r embryonau sy'n debygol o fod yn feichiogrwydd llwyddiannus gael ei defnyddio ymhlith pobl, yn ôl gwyddonwyr y Brifysgol.

Mae potensial gan y darganfyddiad hwn i hybu cyfraddau llwyddiant IVF a helpu i leihau nifer y beichiogiadau lluosog.

Fe wnaeth y canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn rhyngwladol Fertility and Sterility a'u hariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ddefnyddio techneg delweddu uwch i olrhain y symudiadau arwahanol y tu mewn i wy sy'n digwydd yn ystod ysgogiad adeg ffrwythloni.

Bu'r gwyddonwyr o Gaerdydd yn gweithio gyda thîm ym Mhrifysgol Rhydychen i ddadansoddi cynhwysion mewnol yr wy dynol neu'r sytoplasm i arsylwi ar batrymau rhythmig gwahanol.

"Yn achos triniaeth IVF bresennol, caiff wyau eu ffrwythloni yn y labordy ac yna caiff yr embryonau sy'n cael eu hystyried fel y rhai iachaf eu dewis i'w mewnblannu yng nghroth y fam, gan ddefnyddio meini prawf dewis fel nifer a golwg y celloedd sy'n cael eu cynhyrchu yn ystod y broses rannu," yn ôl yr Athro Karl Swann, yr Ysgol Feddygaeth, a arweiniodd yr ymchwil.

"Fodd bynnag, mae mewnblannu wyau dethol gan ddefnyddio dulliau presennol yn gofyn am eu meithrin am ddiwrnodau ac nid yw'r mewnblannu'n llwyddo bob amser."

"Yn sgil ymchwil blaenorol mewn llygod, gwyddom eisoes fod mynediad sberm i wy'r llygoden yn sbarduno "symudiadau sytoplasmig rhythmig", a all helpu i ragweld datblygiad embryo yn llwyddiannus. Trwy fabwysiadu'r dull allweddol hwn, rydym nawr wedi gallu dangos bod yr un math o symudiadau rhythmig yn digwydd mewn wyau dynol," ychwanegodd.

Cafodd wyau a wnaeth fethu ffrwythloni yn dilyn triniaeth IVF eu rhoi gan gleifion a fynychodd glinig IVF Wales, sef yr uned ffrwythloni yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd. Mewn gweithdrefn wedi'i chymeradwyo gan yr HFEA, cafodd protein sy'n perthyn yn benodol i sberm ('PLC-zeta'), sy'n ysgogi wyau, ei roi mewn wyau trwy bigiad, ac yna gwnaed delweddau ohonynt dros gyfnod o nifer o oriau.

Roedd y gwyddonwyr yn gallu gweld symudiadau neu sbasmau mewnol gwahanol, a dyma'r tro cyntaf y mae'r rhain wedi'u darganfod mewn wyau dynol. Mae'r symudiadau'n hyn yn cydberthyn yn rhagorol ag union amseriad y newidiadau biocemegol sy'n digwydd adeg ffrwythloni. Mae'r gwyddonwyr yn gobeithio y gallai'r wybodaeth hon helpu i gynnig arwydd cynnar ac effeithiol o hyfywedd beichiogrwydd llwyddiannus mewn IVF dynol.

Ychwanegodd yr Athro Swann: "Mae dadansoddiadau blaenorol o ffrwythloni mewn llygod wedi awgrymu y gall defnyddio'r dechneg hon gynnig arwydd cynnar ac effeithiol o feichiogrwydd llwyddiannus ar ôl IVF. Bellach rydym wedi darganfod bod potensial gan y dull hwn o gael ei gymhwyso i wyau dynol.

"Mae llawer iawn o ymchwil ychwanegol i'w wneud o hyd i gadarnhau a yw'r symudiadau hyn yn cydberthyn yn uniongyrchol â beichiogrwydd cadarnhaol, ond mae'n bosibl y gall y dechneg hon ragweld yr embryo gorau ar gyfer IVF, a ddylai helpu i leihau nifer y beichiogiadau lluosog sy'n aml yn digwydd yn ystod triniaeth IVF o ganlyniad i drosglwyddo nifer o embryonau ar y tro."

Mae'r papur, PLC-induced Ca2+ oscillations cause coincident cytoplasmic movements in human oocytes that failed to fertilize after ICSI , wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn, Fertility and Sterility.

.

Rhannu’r stori hon